Y Wasg

Sêr yn dod ynghyd i nodi penblwydd Opera Cenedlaethol Cymru yn 75 oed gyda cherdd a recordiadau Corws newydd

15 Ebrill 2021
  • WNO yn comisiynu cerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru i ddathlu ei benblwydd yn 75 oed
  • Lleisiau o Gymru yn cynnwys Syr Gareth Edwards, y Fonesig Siân Phillips, Rakie Ayola, y Farwnes Tanni Grey Thompson a Syr Bryn Terfel yn serennu mewn recordiad ffilm o'r gerdd
  • Ffilm penblwydd WNO yn 75 oed gan gynnwys perfformiad newydd o’r Easter Hymn gan Gorws a Cherddorfa WNO

I nodi ei benblwydd yn 75 oed, mae WNO wedi cyhoeddi cerdd sydd wedi cael ei chomisiynu'n arbennig gan y cwmni gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn. Mae'r gerdd, Intermezzo, yn myfyrio ar wreiddiau gwylaidd y Cwmni a'i weddnewidiad i'r cwmni opera byd-enwog ydyw heddiw. Mae'r gerdd hefyd yn myfyrio ar y sefyllfa bresennol y mae'r holl sefydliadau celfyddydol yn ei hwynebu, yn methu â pherfformio ar hyn o bryd, ac mae'n rhoi gobaith am 'lwyfan llachar’ yn y dyfodol.

Mae dwy fersiwn - un yn Gymraeg, ac un yn Saesneg - o'r gerdd wedi cael eu hysgrifennu, recordio a rhyddhau fel ffilmiau.

Ymhlith y lleisiau o Gymru sy'n serennu mae'r canwr opera Syr Bryn Terfel, yr arwr rygbi Syr Gareth Edwards, y Farwnes Tanni Grey Thompson, y delynores Catrin Finch, y gantores/cyfansoddwr caneuon Caryl Parry Jones, y gantores opera Rebecca Evans, y canwr poblogaidd Dafydd Iwan, a'r actorion o Gymru'r Fonesig Siân Phillips, Mark Lewis Jones a Rakie Ayola. Bydd y recordiad ffilm o'r gerdd yn cael ei ryddhau heddiw (15 Ebrill) ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol WNO.

Mae WNO yn dathlu 75 mlynedd ers ei berfformiad cyntaf fel cwmni opera, sef sioe ddwbl o Cavalleria rusticana a Pagliacci yn Theatr Tywysog Cymru, Caerdydd, ar 15 Ebrill 1946. I dathlu’r penblwydd yma bydd Corws a Cherddorfa enwog WNO yn rhyddhau fersiwn newydd ei recordio o’r Easter Hymn o Cavelleria rusticana.

Mae Corws WNO yn ail-olrhain taith y Cwmni, wrth fynd am dro trwy hanes o’i darddiad diymhongar yn Llandaf, Caerdydd i’w gartref presennol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gan arwain at berfformiad syfrdanol o’r Easter Hymn ar Lwyfan Donald Gordon. Mae’r unawdydd Camilla Roberts yn ymuno â lluoedd llawn y Corws a'r Gerddorfa o dan arweiniad James Southall.

Y cerddor o Ferthyr, Idloes Owen a gafodd y syniad gwreiddiol o sefydlu cwmni opera cenedlaethol i Gymru yn 1943 ac arweiniodd grŵp o gerddorion amatur o bob cefndir yn cynnwys glowyr, athrawon a meddygon, i ddod ynghyd drwy eu hangerdd at gerddoriaeth a chanu.  Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru mewn capel yn Heol y Crwys, Caerdydd.

Arweiniodd Idloes Owen berfformiadau cyntaf WNO yn 1946 a pharhaodd yn gyfarwyddwr cerddorol y Cwmni tan ei farwolaeth yn 1954.

Mae WNO wedi'i wreiddio'n ddwfn yng nghymunedau Caerdydd a'r Cymoedd lle cafodd ei ffurfio’n wreiddiol hyd heddiw, ac mae'n gweithio gyda'r cymunedau hynny lle mae'n teithio yng Nghymru a Lloegr. Drwy weithio gydag ysgolion, cefnogi teuluoedd sy'n byw â dementia, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a pherfformwyr ifanc talentog a thechnegwyr drwy ei raglen Opera Ieuenctid, gall WNO barhau i gael pobl o bob rhan o'n cymunedau i gymryd rhan mewn opera a cherddoriaeth a'u mwynhau.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO, Aidan Lang: "Mae'n bleser gennym rannu Intermezzo ar achlysur ein penblwydd yn 75 oed a diolch o waelod calon i Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn am grynhoi stori WNO yn y modd mwyaf addas. Hoffem hefyd ddiolch i bawb o'r rheiny a fu ynghlwm â'r recordiadau am eu hamser a chymorth wrth ein helpu i gynhyrchu'r ffilmiau arbennig hyn. Mae'r pandemig yn profi i fod yn amser anodd i bawb ac i'r celfyddydau ar y cyfan, ond mae'n rhaid i ni gofio y bu i WNO ddod i'r amlwg am y tro cyntaf yn ystod argyfwng byd-eang; yr Ail Ryfel Byd. Mae ysbryd a gweledigaeth Idloes Owen yn parhau drwy'r Cwmni, ac rydym yn hyderus o hyd y byddwn yn dod allan o'r argyfwng hwn yn gryfach ac yn edrych tua'r dyfodol gyda gobaith ac optimistiaeth. Mae'r gerdd a’r Easter Hymn yn ddathliad o etifeddiaeth Cymru fel gwlad y gân ac yn fyfyrdod ar bwysigrwydd cerddoriaeth a'r celfyddydau i fywydau pawb ohonom."

Mae Intermezzo a’r Easter Hymn ar gael i'w gwylio ar wefan WNO a byddant yn cael eu rhannu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol WNO ynghyd â gweithgareddau eraill i ddathlu ein 75ain penblwydd #WNO75.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wno.org.uk

Diwedd


Nodiadau i Olygyddion

  • Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu operâu ar raddfa fawr, cyngherddau a gwaith allgymorth ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysgol a chymunedol a'n prosiectau digidol o'r safon uchaf. Rydym yn gweithio â'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, ac rydym yn anelu at ddangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera yn gelfyddyd werthfawr, berthnasol a rhyngwladol gyda'r pŵer i gael effaith ac ysbrydoli
  • Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o www.wno.org.uk/press
  • Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau cysylltwch â:
    Penny James, Rheolwr y Wasg
    029 2063 5038
    penny.james@wno.org.uk

    Christina Blakeman, Swyddog y Wasg
    029 2063 5037
    christina.blakeman@wno.org.uk