Y Wasg

Opera Cenedlaethol Cymru yn penodi'r Athro Medwin Hughes yn Gadeirydd

19 Mai 2025

Bydd yr Is-Ganghellor hiraf ei wasanaeth yng Nghymru yn arwain Bwrdd WNO pan ddaw tymor Yvette Vaughan Jones i ben yn Hydref 2025

Mae Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) wedi cyhoeddi penodiad yr Athro Medwin Hughes CBE DL yn Gadeirydd newydd ei Fwrdd Cyfarwyddwyr.  

Mae Hughes yn gyn Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac yn Is-Ganghellor Prifysgol Cymru. Yn ystod ei yrfa fedrus o 23 mlynedd mewn addysg uwch, arweiniodd rai o'r prosiectau trawsnewidiol mwyaf yn y dirwedd addysgol yng Nghymru ac mae wedi chwarae rhan allweddol mewn sawl menter strategol sy'n gysylltiedig â'r celfyddydau yng Nghymru.

Yn siaradwr Cymraeg rhugl, mae Hughes wedi gwasanaethu fel Dirprwy Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac ar nifer o bwyllgorau cynghori Llywodraeth Cymru a Chyngor Ewrop ynghylch polisi addysgol a diwylliannol. Mae ei wasanaeth a'i arweinyddiaeth helaeth ar draws llawer o elusennau cenedlaethol a chyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cadarnhau ei ymrwymiad a'i ymroddiad i ddatblygu a chefnogi cymunedau cynaliadwy a gwydn.

Ymunodd â Bwrdd WNO ym mis Gorffennaf 2022 a chafodd ei benodi'n Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol ym mis Ionawr 2024. Daw'n Gadeirydd ym mis Medi 2025 pan ddaw tymor chwe blynedd Yvette Vaughan Jones i ben.

Dywedodd Medwin Hughes: “Mae’n fraint fawr cael fy mhenodi’n Gadeirydd WNO ar adeg mor gyffrous a thrawsnewidiol i’r Cwmni, ac rwy’n ddiolchgar i’m cyd-ymddiriedolwyr am eu hyder yn fy arweinyddiaeth. Hoffwn hefyd fynegi fy niolchgarwch diffuant i Yvette Vaughan Jones am ei chyfraniad nodedig yn ystod ei chyfnod yn y swydd.

“Dylem ymfalchïo’n aruthrol yn enw da rhyngwladol rhagorol WNO. Dyma Gwmni sy'n rhagori'n gyson ac yn arddangos y gorau o draddodiad artistig cyfoethog ein cenedl. Wrth i ni ddathlu 80 mlynedd o wasanaeth, rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda'n Cyfarwyddwyr Cyffredinol newydd wrth iddynt lunio dyfodol ysbrydoledig i'r Cwmni.”

Ymunodd Adele Thomas a Sarah Crabtree â WNO fel Cyfarwyddwyr Cyffredinol a Phrif Weithredwyr ar y cyd ym mis Ionawr 2025 - gan rannu goruchwyliaeth dros gyfeiriad artistig a rheolaeth y Cwmni. Bu’r cyfarwyddwr theatr ac opera o fri rhyngwladol, Thomas, yn gyfarwyddwr ar gynhyrchiad blaenorol WNO o Rigoletto Verdi, tra ymunodd y cynhyrchydd gweledigaethol Crabtree â'r Cwmni o'r Royal Ballet and Opera, lle'r oedd hi'n Gynhyrchydd Creadigol a Phennaeth Theatr Linbury (opera).

Dywedodd Adele Thomas a Sarah Crabtree: “Rydym wrth ein bodd yn croesawu Medwin Hughes fel ein Cadeirydd WNO newydd yn yr Hydref. Daw Medwin o draddodiad hir y radical tawel ac mae ei hanes eithriadol o arweinyddiaeth a thrawsnewid yn siarad drosto’i hun. Mae'n angerddol am bŵer y celfyddydau i drawsnewid bywydau ac angenrheidrwydd celf hyd yn oed ac yn enwedig mewn cyfnodau o argyfwng. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Medwin, bydd ei arweiniad yn amhrisiadwy wrth i ni gychwyn ar y bennod gyffrous newydd hon yn stori WNO. 

"Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Yvette Vaughan Jones, sydd wedi bod yn Gadeirydd ymroddedig yn ystod cyfnod heriol i'r Cwmni. Wrth i'w chyfnod ddod i ben, rydym yn dathlu ei chyfraniad proffesiynol aruthrol a’r ysbryd hael a ddaeth i’r rôl, sydd wedi ein galluogi i adeiladu cwmni opera’r dyfodol.”

Mae gan Yvette Vaughan Jones yrfa nodedig yn gweithio yn y celfyddydau - yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Hi oedd y fenyw gyntaf yn hanes y Cwmni i ddal rôl Cadeirydd WNO, pan ymunodd â'r Bwrdd ym mis Hydref 2019. 

Dywedodd Yvette Vaughan Jones: "Rwyf wrth fy modd bod Medwin Hughes wedi cytuno i ymgymryd â rôl Cadeirydd y Cwmni gwych hwn. Bydd doethineb, profiad a rhwydweithiau helaeth o gymheiriaid a ffrindiau Medwin yn darparu'r math gorau o arweinyddiaeth. 

“Rwyf hefyd yn falch iawn bod aelodau Bwrdd WNO wedi teimlo mai parhad penodi aelod presennol o'r bwrdd i ddarparu’r sefydlogrwydd hwnnw yw’r hyn sydd ei angen ar y Cwmni ar hyn o bryd yn ei hanes, dan arweinyddiaeth Sarah ac Adele.  Rydym ni’n awyddus i gydweithio ar y trosglwyddiad i sicrhau pontio di-dor ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag ef ar hyn.”  

Dywedodd Catryn Ramasut, Cyfarwyddwr Celfyddydol, Cyngor Celfyddydau Cymru: “Rydym yn llongyfarch Medwin ar ei benodiad fel Cadeirydd gan edrych ymlaen at berthynas gadarnhaol a chydweithredol wrth iddo lywio’r cwmni drwy ddyfodol cryf a chynaliadwy, gyda rhagoriaeth a chynhwysiant yn wraidd i’r cyfan. Diolchwn hefyd i Yvette Vaughan Jones am ei blynyddoedd o wasanaeth i’r cwmni a’r sector celfyddydol yn ehangach.”

 Dywedodd Phil Gibby, Cyfarwyddwr Ardal De-orllewin Lloegr yng Nghyngor Celfyddydau Lloegr: "Rydym yn falch o groesawu'r Athro Medwin Hughes fel Cadeirydd newydd Opera Cenedlaethol Cymru. Bydd ei arweinyddiaeth, wrth weithio ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwyr Cyffredinol newydd trawiadol, Adele Thomas a Sarah Crabtree, yn sicrhau bod y cwmni’n parhau i fynd o nerth i nerth yn y blynyddoedd i ddod.  

“Rydym yn diolch i Yvette Vaughan Jones am ei gwasanaeth fel Cadeirydd cydweithredol a blaengar ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’r ddau Gadeirydd drwy’r cyfnod pontio i gefnogi dyfodol cryf i’r Cwmni.” 

Mae manylion llawn Bwrdd WNO, gan gynnwys bywgraffiadau, i'w gweld yma

DIWEDD


Am ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch ag: Elin Rees, Ymgynghorydd Cyfathrebu| comms@wno.org.uk 

Nodiadau i Olygyddion

Opera Cenedlaethol Cymru yw’r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu cyngherddau, gwaith allgymorth ac operâu ar raddfa fawr ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a’n prosiectau digidol llwyddiannus. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a’n nod yw dangos i genedlaethau’r dyfodol bod opera’n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â’r grym i gael effaith ac ysbrydoli.

Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho yn wno.org.uk/press