Y Wasg

Opera Cenedlaethol Cymru yn Lansio Cyfres Fer Newydd o Bodlediadau

11 Mawrth 2021
  • Cyfres arbennig â thair rhan yn canolbwyntio ar y daith o’r profiadau cyntaf gydag opera i ddod yn artist proffesiynol
  • Bydd y cyflwynwyr gwadd yn cynnwys y soprano Gymreig, Natalya Romaniw, yn trafod eu profiadau eu hunain a phrofiadau eu cyfoedion

Yn dilyn lansiad cyfres podlediadau cyntaf Opera Cenedlaethol Cymru yn 2020, mae The O Word a Cipolwg yn ôl gyda dwy gyfres fer arall yn lansio ar 11 Mawrth, gyda phenodau bob wythnos.

Mae’r podlediad Saesneg – The O Word – a’r podlediad Cymraeg – Cipolwg – yn ôl gyda chyfres tair-rhan sy’n edrych ar daith artist ifanc o’r profiad cyntaf gyda cherddoriaeth glasurol i’r amser fel myfyriwr yr holl ffordd at y perfformiad proffesiynol cyntaf. Nod y penodau hyn yw nid yn unig helpu ac annog unrhyw berson ifanc sy’n ystyried gyrfa ym maes y celfyddydau, ond hefyd i roi mewnwelediad gonest gan y cyflwynwyr eu hunain wrth ddysgu hefyd am bobl eraill sy’n mynd drwy’r un broses heddiw.

Bydd tri o westeion yn cymryd yr awenau ac yn cyflwyno The O Word: 

  • Y soprano Natalya Romaniw fydd yn agor y gyfres, gan fyfyrio ar ei dyddiau canu cynnar gydag Opera Ieuenctid WNO, yn sgwrsio gyda’i ffrind a chyn-aelod arall o’r Opera Ieuenctid, y soprano Rhian Lois. Bydd hefyd yn siarad â thri o fyfyrwyr sy’n rhan o Opera Ieuenctid WNO i ddysgu am beth wnaeth eu denu at opera.
  • Ym mhennod dau, bydd Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Tim Rhys-Evans yn ymchwilio’r broses o astudio mewn prifysgolion a conservatoires, ac yn cwrdd â Clair Rowden o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd, yn ogystal â myfyrwyr i drafod y gwahaniaeth rhwng y ddau.
  • Bydd Tianyi Lu, Arweinydd Benywaidd Preswyl WNO yn cyflwyno pennod tri, lle bydd yn cynnal sgwrs grŵp i ddysgu’r camau cyntaf y mae myfyriwr graddedig yn eu cymryd tuag at yrfa broffesiynol. Bydd cantorion a ffigurau allweddol ym maes y celfyddydau yn ymuno â Tianyi, gan gynnwys y soprano Elin Pritchard a Phennaeth Rhaglen Artistiaid Ifanc Jette Parker y Royal Opera House, Elaine Kidd.

Dywedodd Natalya Romaniw: “Ro’n i’n awyddus i ymchwilio sut gall profiadau cerddorol ffurfiannol gael effaith ar gantorion ifanc, ac ymgorffori hyn drwy edrych yn ôl ar fy mhrofiadau fy hun gydag Opera Ieuenctid WNO. Roedd yr Opera Ieuenctid yn cynnig amgylchedd croesawgar i mi a pherfformwyr eraill; pob un ohonom yn awyddus i rannu’r broses hyfryd o greu cerddoriaeth. Yma, gwnes ffrindiau oes gyda Rhian Lois er enghraifft, ac roeddem wrth ein bodd yn gallu hel atgofion yn fy mhennod. ‘Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at bobl wrando arni.”

Mae Cipolwg hefyd yn dychwelyd am gyfres tair rhan a gynhelir gan Elin Jones, Dramaturg WNO. Bydd y comedïwr a’r newyddiadurwr Lorna Prichard yn ymuno ag Elin unwaith eto, ar daith y tro hwn fel gohebydd symudol yn cwrdd â phobl ifanc, myfyrwyr a chantorion proffesiynol ledled Cymru a dysgu mwy am bob cam ar y daith at yrfa operatig broffesiynol. 

Drwy gydol y gyfres fer hon, bydd Elin yn edrych ar y cyfleoedd hyfforddiant a datblygu sydd ar gael i ddarpar gantorion ac artistiaid ifanc, gyda Lorna’n cyfweld ag ymarferwyr Opera Ieuenctid WNO yng Ngogledd Cymru, Morgana Warren-Jones a Jenny Pearson, yn ogystal ag un o’i aelodau, Millie Roberts. Bydd Tim Rhys-Evans yn westai ar gyfer yr ail bennod, lle bydd Lorna’n cyfweld ag ef am hyfforddiant conservatoire, yn ogystal â’i brofiad proffesiynol o arwain grwpiau ieuenctid megis Only Boys Aloud. Bydd y gyfres yn dod i ben gyda golwg ar fyd proffesiynol canwr, gyda Lorna’n cwrdd â dau o gantorion ifanc, Alys Roberts (myfyriwr graddedig o Ysgol Opera’r Royal Academy of Music) ac Elgan Llŷr Thomas (Artist Harewood English National Opera) fydd yn trafod sut beth yw bod yn artist ifanc ar ôl graddio yn chwilio am eich rôl broffesiynol gyntaf.

Dywedodd Aidan Lang, Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd ein cyfres o bodlediadau’n dychwelyd, ac yn edrych ymlaen at rannu’r penodau newydd hyn dros yr wythnosau nesaf. Er gwaetha’r sefyllfa bresennol, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn buddsoddi i feithrin a datblygu talent artistig ifanc i’r dyfodol, ac yn ystod y cyfnodau clo rydym wedi gweld llawer o’n cyfranogwyr ifanc yn parhau i ymgysylltu’n frwdfrydig gyda’n rhaglenni ar-lein megis Opera Ieuenctid. Gyda lwc, bydd y gyfres fer hon yn rhoi mewnwelediad ystyrlon a diddorol i’r broses o ddod yn artist ifanc, a fydd o bosib yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gantorion opera, cerddorion ac artistiaid.”

Bydd penodau newydd ar gael i’w lawrlwytho pob wythnos o 11 Mawrth ar Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts ac ar wefan WNO.

wno.org.uk

Diwedd


Nodiadau i Olygyddion

  • Y soprano Gymreig Natalya Romaniw yw un o sêr ifanc mwyaf disglair Ewrop. Mae wedi ennill gwobr Cantor RPS 2020, Artist Ifanc y Flwyddyn yng Ngwobrau Cerddoriaeth Clasurol Gramoffon 2020 a Gwobr Critic’s Choice 2017 am Gerddoriaeth. Cafodd CD cyntaf Romaniw ‘Arion- voyage of a Slavic Soul’, a gyhoeddwyd yn 2020, a oedd yn cynnwys llawer o brif gyfansoddwyr Dwyrain Ewrop feirniadaeth gritigol ardderchog.
  • Tianyi Lu yw Arweinydd Preswyl Benywaidd WNO ac Arweinydd Cynorthwyol Cerddorfa Symffoni Melbourne. Yn dilyn ei Chymrodoriaeth Dudamel gyda Ffilharmonig LA yn 2017/18 a dosbarthiadau meistr gyda Cherddorfa Frenhinol Concertgebouw yn 2018, mae Lu yn ddiweddar wedi arwain y CBSO, Cerddorfa Genedlaethol Radio Rwmania, Cerddorfa Symffoni Sydney a Ffilharmonia Auckland.
  • Cafodd Tim ei benodi’n Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2020. Mae’n arweinydd corawl, trefnydd, cyfansoddwr a chyflwynydd teledu adnabyddus iawn. Ar ôl rhai blynyddoedd yn gweithio fel canwr opera proffesiynol, sylweddolodd Tim ei fod wirioneddol yn angerddol dros greu a hwyluso cerddoriaeth yn arbenigo mewn cerddoriaeth gorawl, opera a theatr gerdd. Mae’n angerddol dros greu cyfleoedd cerddoriaeth ar lawr gwlad i bawb; gan sicrhau bod gan bawb sydd â’r dalent, y ddisgyblaeth a’r ymrwymiad fynediad at lwybrau ac at astudio cerddoriaeth a pherfformiad yn fanwl.
  • Dramaturg WNO, Elin Jones: Yn wreiddiol o Ynys Môn, astudiodd Elin ym Mhrifysgol Caerdydd, Humboldt Universität zu Berlin a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru cyn ymuno gydag Opera Cenedlaethol Cymru fel Dramaturg yn 2018.
  • Opera Cenedlaethol Cymru yw cwmni opera cenedlaethol Cymru, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Arts Council England i ddarparu opera, cyngherddau a gwaith allgymorth ar raddfa fawr ledled Cymru ac i ddinasoedd mawr mewn rhanbarthau o Loegr. Rydym yn ceisio cynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth, a’n prosiectau digidol arobryn. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddarganfod a meithrin talent operatig ifanc, a’n nod yw dangos cenedlaethau’r dyfodol bod opera yn gelfyddyd gwerth chweil, perthnasol a byd-eang gyda’r grym i effeithio ac ysbrydoli
  • Bydd y podlediad ar gael i’w lawrlwytho o nifer o gyflenwyr podlediadau, gan gynnwys Spotify, Apple Podcasts a Google Podcasts. I ddod o hyd iddo a thanysgrifio, dylai gwrandawyr chwilio am ‘The O Word’, ‘Cipolwg’ neu’n syml, ‘Welsh National Opera’, ac yna clicio i danysgrifio. Bydd hefyd ar gael ar wefan WNO: wno.org.uk/podcast
  • Mae lluniau o gynyrchiadau WNO ar gael i’w llawrlwytho ar wno.org.uk/press
  • I gael rhagor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:
    Rachel Bowyer / Penny James, Rheolwr y Wasg a Materion Cyhoeddus (rhannu swydd)
    029 2063 5038
    rachel.bowyer@wno.org.uk / penny.james@wno.org.uk

    Christina Blakeman, Swyddog y Wasg
    029 2063 5037
    christina.blakeman@wno.org.uk