WNO Podcast

Archwiliwch y byd opera gyda phodlediad Opera Cenedlaethol Cymru.  

Mae The O Word (cyfrwng Saesneg) a Cipolwg (cyfrwng Cymraeg) yn archwilio gwaith a chyrhaeddiad ehangach Opera Cenedlaethol Cymru ac yn amlygu rôl opera o fewn ein bywydau ni heddiw. Boed ar lwyfan neu o fewn y gymuned, cymerwch gip ar weithrediad mewnol cwmni teithiol a darganfyddwch sut y gall opera drawsnewid bywydau.


Mae'r ddwy gyfres ar gael i'w lawrlwytho o nifer o gyfarwyddiaduron podlediadau, gan gynnwys Apple Podcasts, Google Podcasts a Spotify. Dim ond chwilio am 'The O Word', 'Cipolwg' neu 'Opera Cenedlaethol Cymru' ar gyfrwng podlediad o'ch dewis sydd angen ei wneud, a chofiwch danysgrifio.