Y Wasg

Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn agor ei ddrysau ar gyfer Gwerthiant Gwisgoedd a Phropiau unigryw

28 Ionawr 2026

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn cynnal Gwerthiant Gwisgoedd a Phropiau ar 6 a 7 Chwefror yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae'r gwerthiant cyhoeddus anarferol hwn yn gyfle i gael cip ar du ôl i'r llen a dod yn berchen ar ddarn o hanes WNO.

Mae 2026 yn nodi 80ain pen-blwydd WNO, ac mae'r gwerthiant arbennig hwn yn dathlu crefftwaith a chreadigrwydd y Cwmni, yn ogystal â'i hanes. Mae'r eitemau'n amrywio o ddilladau wedi'i crefftio â llaw i ddodrefn, gyda phob eitem wedi ymddangos ar lwyfannau sawl theatr, a phob un gyda'i stori ei hun i'w hadrodd.

Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac nid oes angen tocyn. Mae mynediad cynnar i aelodau WNO a sesiynau pwrpasol i brynwyr masnach. Bydd y gwerthiant yn mynd tuag at godi arian i WNO er mwyn sicrhau bod y Cwmni'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Gyda channoedd o wisgoedd ar gael o gynyrchiadau megis Don Giovanni, Macbeth, Turandot and Die Fledermaus, bydd yna rywbeth i bawb. Gwerthir yr eitemau ar sail y cyntaf i'r felin.

Dywedodd Torben Schacht, Pennaeth Propiau WNO: 'Rydym yn cynnig propiau sy'n cwmpasu dros 50 mlynedd o hanes operatig - gyda sioeau penodol yn cynnwys Lulu, From the House of the Dead, The Tudor Trilogy, Turandot, La bohème, a llawer mwy. O emwaith cywrain i ddarnau trawiadol o ddodrefn, mae'r gwerthiant hwn yn gyfle i ddod yn berchen ar etifeddiaeth greadigol a chyfoethog WNO.'

Dywedodd Judith Russell, Rheolwr Cwpwrdd Dillad Teithiol WNO: 'Yn ogystal â phropiau a dodrefn, bydd detholiad o eitemau o'r ôl-gatalog o gynyrchiadau cyfoes i gynyrchiadau cyfnod, o gynhyrchiad diweddar WNO o Madam Butterfly i Macbeth, The Magic Flute, Wozzeck a Don Carlos.

Crëwyd un darn penodol, o Falstaff, ar gyfer Donald Maxwell ac yna'i wisgo gan Syr Bryn Terfel. Ymhlith yr eitemau mae yna hetiau, ategolion, dillad plant, gwisg ffansi ac arfwisgoedd, felly mae yna genre sy'n addas i bob dant a phoced.'

P'un a ydynt yn caru'r theatr neu'r byd opera, yn casglu, yn crefftio, yn chwilio am hen drysorau, yn steilio neu rywun sydd â llygad am bethau allan o'r cyffredin, bydd y cyfle cyfyngedig hwn yn siŵr o sbarduno'r dychymyg.

https://wno.org.uk/cy/costumes...

Y DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion

Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu cyngherddau, gwaith allgymorth ac operâu ar raddfa fawr ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a'n prosiectau digidol llwyddiannus. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a'n nod yw dangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera'n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â'r grym i gael effaith ac i ysbrydoli. Ceir rhagor o wybodaeth am werthiant Gwisgoedd a Phropiau WNO yn wno.org.uk/cy/

· Mynediad â Blaenoriaeth – dydd Gwener 6 Chwefror – aelodau WNO 9.30am – 11.30am a 5pm – 7pm. Cysylltiadau diwydiant – 12pm – 5pm – anfonwch e-bost i sustainability@wno.org.uk i wirio cymhwysedd (Rhaid i brynwyr masnach ddod ag ID i ddangos lle maent yn gweithio)

· Mynediad Cyffredinol – dydd Sadwrn 7 Chwefror – 11am – 7pm

Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:

Christina Blakeman, Rheolwr Cyfathrebu 

Christina.blakeman@wno.org.uk