- Cerddorfa WNO dan arweiniad dawn arwain newydd yn Arddangosfa Arwain Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
- Pietro Rizzo i arwain Cerddorfa WNO mewn Cyngerdd Gala yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd i ddathlu 40fed blwyddyn cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y BBC
- Cerddorfa WNO i ddirwyn Proms Cymru i ben gyda’r soprano Shân Cothi a’r arweinydd Owain Arwel Hughes
- Cerddorfa WNO i berfformio mewn cyngerdd ar daith dros yr haf gyda Cerddoriaeth o'r Galon
- Y soprano Elizabeth Atherton i berfformio gyda Cherddorfa WNO yng Ngŵyl Abergwaun 2023
Yn syth oddi ar ei thaith i’r Weriniaeth Tsiec lle agorodd Ŵyl Wanwyn ryngwladol enwog Prague ym mis Mai gyda darn adnabyddus aruchel Smetana, Má Vlast, mae Cerddorfa WNO yn edrych ymlaen at Dymor Haf prysur lle byddant yn perfformio mewn sawl gŵyl bwysig yn ogystal â nifer o leoliadau ledled y DU.
Arddangosfa Arwain CBCDC
Dechreuai Cerddorfa WNO ei Thymor Haf gyda chyngerdd awr ginio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (dydd Mercher 24 Mai). Gan hyrwyddo ymrwymiad WNO ymhellach i ddatblygu dawn newydd yn ogystal â’i bartneriaeth â CBCDC, bydd pum arweinydd ôl-radd yn arwain Cerddorfa WNO mewn cyngerdd i ddathlu doniau ifanc. Mae’r cyngerdd hwn, sy’n cynnwys agorawdau operatig a darnau cerddorfaol gan Mozart, Weber, Beethoven, Verdi a Dvořák, yn cynnig cyfle anhygoel i weld arweinwyr y dyfodol yn arwain y Gerddorfa.
Mae pris y tocynnau ar gyfer yr Arddangosfa Arwain yn CBCDC, Caerdydd yn amrywio rhwng £6 - £12, a gellir eu harchebu drwy rwcmd.ac.uk/whats-on
Canwr y Byd Caerdydd y BBC
Ym mis Mehefin, mae Cerddorfa WNO yn dychwelyd i lwyfan Neuadd Dewi Sant ar gyfer Cystadleuaeth fawreddog ddwyflynyddol Canwr y Byd Caerdydd y BBC, i ddathlu bod y gystadleuaeth yn 40 oed eleni. Gan arddangos dawn benigamp y genhedlaeth nesaf o gantorion clasurol, mae cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y BBC yn cynnig profiad a all newid bywydau cantorion sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd proffesiynol.
Dan arweiniad yr arweinydd llwyddiannus, Michael Christie, bydd Cerddorfa WNO yn cyfeilio i gystadleuwyr yn rownd un (dydd Sul 11 Mehefin) a rownd tri (dydd Mawrth 13 Mehefin) y Brif Wobr. Mae Michael Christie wedi meithrin gyrfa ryngwladol fel arweinydd gyda chyfoeth o brofiad ar gyfer repertoire opera a symffonig. Ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Cerddoriaeth y New West Symphony yng Nghaliffornia a bu’n gweithio yn y gorffennol gyda Minnesota Opera, San Francisco Opera a Queensland Orchestra.
Aidan Lang, Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO fydd yn cadeirio panel beirniadu’r Brif Wobr ochr yn ochr â Roberta Alexander, y soprano o America, a’r bariton bas Neal Davies, sy’n gyn-gystadleuydd y wobr.
Ers sefydlu’r gystadleuaeth 40 mlynedd yn ôl, mae Canwr y Byd Caerdydd y BBC wedi helpu i lansio gyrfaoedd rhai o sêr opera mwyaf blaenllaw y byd yn cynnwys Syr Bryn Terfel, Dmitri Hvorostovsky, Jamie Barton a Karita Mattila. I ddathlu 40fed blwyddyn y gystadleuaeth, bydd Cerddorfa WNO hefyd yn perfformio mewn cyngerdd gala gwefreiddiol (dydd Gwener 16 Mehefin), dan arweiniad Pietro Rizzo. Bydd y cyngerdd yn cynnwys perfformiadau o ffefrynnau operatig gan gyn-gystadleuwyr a gyrhaeddodd y rownd derfynol a chyn-enillwyr Canwr y Byd Caerdydd y BBC, yn cynnwys y soprano Louise Alder, y mezzo-soprano Claire Barnett-Jones, y tenor Luis Gomes a’r bariton Andrei Kymach.
Bydd pob rownd o’r gystadleuaeth ar gael ar y radio, teledu ac ar-lein gan y BBC.
Dywedodd Aidan Lang ‘Bu’r gystadleuaeth yn atodiad gwych i’r calendr cerddorol ers ei sefydlu 40 mlynedd yn ôl. Mae’n wefreiddiol i gynulleidfaoedd a beirniaid weld dawn newydd ar y llwyfan ac mae’n deimlad mor gyffrous i fod yn dyst i’r cantorion anhygoel hyn ar ddechrau eu gyrfaoedd. Mae’n fraint i mi gael bod yn rhan o’r broses ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr i’r gystadleuaeth ddechrau.’
Mae pris y tocynnau ar gyfer rowndiau cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y BBC a’r cyngerdd gala yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd yn amrywio rhwng £19 - £42, a gellir eu harchebu drwy neuadddewisantcaerdydd.co.uk neu drwy gysylltu â’r Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444.
Proms Cymru 2023
Mae Proms Cymru yn dychwelyd i Neuadd Dewi Sant ym mis Gorffennaf gyda rhaglen gyffrous ac amrywiol, gan ddathlu Cymru fel gwlad y gân unwaith yn rhagor. Gydag amrywiaeth eang a chyfoethog o gerddoriaeth, yn cynnwys clasurol, gwerin, jazz a chyngherddau plant, bydd yr ŵyl pythefnos o hyd hon yn cael ei chyfoethogi ag awyrgylch carnifal, gan gwmpasu ysbryd unigryw Proms Cymru.
Bydd y cyngerdd cyntaf i Gerddorfa WNO berfformio ynddo, Prom Ffilm, yn cynnwys amrywiaeth eang o gerddoriaeth gan y cyfansoddwyr mawr y ffilmiau (dydd Mawrth 11 Gorffennaf). Yn cynnwys rhai o sgoriau mwyaf adnabyddus Hollywood, caiff y gynulleidfa wledd o noson yn gwrando ar berfformiadau o gerddoriaeth ffilmiau yn cynnwys detholiadau o Jurassic Park, Gladiator, Pirates of the Caribbean a Harry Potter.
Bydd Cerddorfa WNO hefyd yn dod â’r ŵyl i ddiweddglo grymus gyda Noson Olaf Proms Cymru (dydd Gwener 14 Gorffennaf) yng nghwmni’r unawdydd Shân Cothi. Mae’r rhaglen yn cynnwys gwledd o glasuron poblogaidd, yn cynnwys uchafbwyntiau o Pomp and Circumstance Elgar, Swan Lake Tchaikovsky a threfniannau o ganeuon traddodiadol Cymraeg poblogaidd.
Mae pris y tocynnau ar gyfer Proms Cymru yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd yn amrywio rhwng £9.50 - £45, a gellir eu harchebu drwy neuadddewisantcaerdydd.co.uk neu drwy gysylltu â’r Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444.
Taith Haf Cerddorfa WNO – Cerddoriaeth o’r Galon
Bydd Cerddorfa WNO yn cychwyn ar daith cyngerdd yr haf i leoliadau ledled Cymru a Lloegr. Bydd yr arweinydd Matthew Kofi Waldren yn cyflwyno rhaglen fydd yn cynnwys rhai o ariâu a deuawdau mwyaf adnabyddus y byd opera, gan gynnwys Eugene Onegin Tchaikovsky, La traviata Verdi a Tosca Puccini, ochr yn ochr â chlasuron cerddorfa poblogaidd sy’n cyfleu dwyster cariad, chwant a thor-calon.
Yn dychwelyd i WNO yn dilyn ei berfformiadau yn The Magic Flute (Gwanwyn 2023) a Don Giovanni (Gwanwyn 2022), mae’r tenor Trystan Llŷr Griffiths yn ymuno â Cherddorfa WNO ar daith ochr yn ochr â’r soprano Nadine Benjamin yn ei pherfformiad cyntaf un gydag WNO.
Bydd y daith yn ymweld â Barnstaple (dydd Mawrth 27 Mehefin), Torquay (dydd Iau 29 Mehefin), Casnewydd (dydd Gwener 30 Mehefin), Wolverhampton (dydd Sul 2 Gorffennaf), Bangor (dydd Mawrth 18 Gorffennaf) a Southampton (dydd Iau 20 Gorffennaf).
Gellir archebu tocynnau o’r lleoliadau eu hunain, ac mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar wno.org.uk/cy/orchestra
Gŵyl Gerdd Abergwaun 2023
Ym mis Awst, bydd Cerddorfa WNO yn perfformio dau gyngerdd fel rhan o Ŵyl Gerdd flynyddol Abergwaun. Ers dros 50 mlynedd mae’r digwyddiad hwn wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd drwy gyflwyno cerddorion o’r radd flaenaf i leoliadau ledled Sir Benfro. Eleni, bydd y soprano Elizabeth Atherton yn ymuno â Cherddorfa WNO ar gyfer dau gyngerdd a fydd yn cynnig elfen Americanaidd unigryw.
Bydd ymddangosiad cyntaf Cerddorfa WNO yn yr ŵyl (dydd Iau 24 Awst) yn arddangos prif gerddorion WNO, dan gyfarwyddyd yr arweinydd David Adams, yn Neuadd y Dderwen, Rhosygilwen. Bydd y rhaglen yn cynnwys y campwaith gan Copland, Appalachian Spring, a Vocalise for Soprano, Cello and Piano gan Previn, ochr yn ochr â gweithiau gan Wagner, Martinů and Korngold.
Bydd yr ail berfformiad (dydd Gwener 25 Awst) yn gweld grym llawn Cerddorfa WNO yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, dan arweiniad Kerem Hasan, mewn rhaglen wedi’i hysbrydoli gan America a fydd yn cynnwys Symffoni Rhif 9 boblogaidd Dvořák, From the New World, a gweithiau gan Samuel Barber, Knoxville: Summer of 1915 a Second Essay for Orchestra.
Gellir archebu tocynnau ar gyfer Gŵyl Abergwaun drwy fishguardmusicfestival.com
Caiff cynulleidfaoedd hefyd y cyfle i fwynhau Cerddorfa WNO yn perfformio opereta egnïol Bernstein, Candide, fel rhan o Dymor yr Haf WNO. Gan agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd ddydd Iau 22 Mehefin, bydd y Cwmni wedyn yn mynd ar daith i Truro (dydd Mercher 28 Mehefin), Llandudno (dydd Mercher 5 Gorffennaf), Rhydychen (dydd Sadwrn 8 Gorffennaf), Birmingham (dydd Mercher 12 Gorffennaf) ac Aberhonddu (dydd Sadwrn 15 Gorffennaf).
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion
Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu cyngherddau, gwaith allgymorth ac operâu ar raddfa fawr ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a'n prosiectau digidol llwyddiannus. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a'n nod yw dangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera'n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â'r grym i gael effaith ac i ysbrydoli.
Mae lluniau’r wasg WNO ar gael i'w lawrlwytho o wno.org.uk/cy/press
Mae rhagor o wybodaeth am waith WNO ar gael ar wno.org.uk/cy/
- Cefnogir cyngherddau Cyfres Glasurol Caerdydd Cerddorfa WNO a rôl Arweinydd y Gerddorfa gan Mathew and Lucy Prichard.
- Cefnogir gwahanol Brif Chwaraewyr Adran gan Gylch y Prif Chwaraewyr
Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:
Giselle Dugdale, Swyddog Cyfathrebu a’r Wasg
Christina Blakeman, Rheolwr y Wasg
Rhys Edwards, Rheolwr Cyfathrebu
Penny James a Rachel Bowyer, Pennaeth Cyfathrebu (rhannu swydd)