WNO yn dathlu Diwrnod Cenedlaethol Opera gydag addasiad digidol o un o glasuron y 20fed ganrif
20 Hydref 2020Bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn rhyddhau fersiwn ffilm newydd o La voix humaine gan Poulenc i gyd-fynd â Diwrnod Opera'r Byd (25 Hydref), gyda'r soprano Claire Booth yn chwarae rhan L. Bydd y ffilm am ddim i'w gwylio ac ar gael ar wefan y Cwmni am chwe mis. Er ei fod am ddim, bydd cynulleidfaoedd yn gallu gwneud rhodd wirfoddol i gefnogi gwaith y Cwmni yn y dyfodol os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol ar gyfer WNO a Festival of Voice yn 2016 a chafodd ei berfformio mewn fflat ym Mhenarth, De Cymru, ar gyfer y fersiwn hon cafodd Claire ei chyfarwyddo unwaith eto gan Syr David Pountney, ac ymunodd y pianydd Christopher Glynn â hi.
Y cysyniad ar gyfer yr addasiad digidol newydd hwn yw parti Zoom yn fflat stiwdio L, lle mae L yn cael galwad ffôn gan ei chariad sy'n dod â'u perthynas i ben. Mae cyfrwng ffilm yn cynnig golwg agos ar yr opera un act hon, gyda gwylwyr yn dyst i'r ystod o emosiynau a brofir gan L o lawenydd a dyhead i ddinistr ac anobaith dwfn.
Agorodd Claire ei chartref ei hun ar gyfer ffilmio a recordio, a oedd yn digwydd yn Swydd Rydychen ym mis Medi dan ganllawiau ymbellhau cymdeithasol. Mae'r opera wedi'i recordio'n 'fyw', gyda Claire yn canu i biano Christopher a oedd yn digwydd mewn ystafell ar wahân yn y tŷ. Defnyddiwyd nifer o gamerâu i recordio'r darn gan greu perfformiad y gellir ei wylio fel pe bai mewn amser real. Cyfieithwyd gweledigaeth artistig David Pountney ar gyfer ffilm gan y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth Harry Zundel o TMAX Productions, a thrwy sgyrsiau rhwng David a Claire i drafod taith gorfforol L.
Mae Claire Booth yn dweud: "Roedd themâu unigrwydd a chyfathrebu yn eithaf amserol cyn y pandemig, ond wrth gwrs mae yna arwyddocâd anhygoel i stori L yn yr adegau hyn, ac rwy'n meddwl y gall bawb uniaethu â stori o golli cariad a'r angen i gysylltu, gan ddewis naill ai rhoi masg neu fod yn fregus."
Dywed Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO, Aidan Lang: "Rydym yn falch iawn o allu dod â'r darn hwn i gynulleidfaoedd, yn addas mewn pryd ar gyfer Diwrnod Opera'r Byd, ac rydym yn ddiolchgar i Claire sydd wedi mynd un gam ymhellach drwy agor ei chartref i ni a chaniatáu i hyn ddigwydd.
Mae'r cyfnod hwn wedi dangos potensial gwaith digidol i ni os caiff ei greu yn benodol ar gyfer y cyfrwng hwnnw. Ni fyddai neb yn awgrymu o ddifrif y gall profiad digidol byth ddisodli perfformiad byw, ond mae hon yn enghraifft berffaith o ddarn o repertoire gweithredol sy'n cyfieithu'n dda i ffilm ac sy'n caniatáu profiad ymgollol a phersonol o'r ansawdd uchaf."
Bydd La voix humaine ar gael ar wefannau WNO a Chanolfan Mileniwm Cymru, ac ar sianel YouTube WNO, am chwe mis o ddydd Sul 25 Hydref am 6pm.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gael mynediad i'r ffilm o 25 Hydref, ewch i wno.org.uk/humaine
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion
- Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu operâu ar raddfa fawr, cyngherddau a gwaith allgymorth ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysgol a chymunedol a'n prosiectau digidol o'r safon uchaf. Rydym yn gweithio â'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, ac rydym yn anelu at ddangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera yn gelfyddyd werthfawr, berthnasol a rhyngwladol gyda'r pŵer i gael effaith ac ysbrydoli
- Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o www.wno.org.uk/press
- Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau cysylltwch â:
Rachel Bowyer / Penny James, Rheolwr y Wasg a Materion Cyhoeddus (rhannu swydd)
029 2063 5038
rachel.bowyer@wno.org.uk / penny.james@wno.org.uk
Christina Blakeman, Swyddog y Wasg
christina.blakeman@wno.org.uk - Mae rhagflas o La voix humaine ar gael yma