Cwrdd â WNO

Aileen Richards

Roedd Aileen Richards yn Uwch Swyddog Gweithredol gyda Mars Incorporated tan iddi ymddeol yn 2015. Ar hyn o bryd, mae’n gwasanaethu fel swyddog anweithredol annibynnol ar sawl bwrdd, a hi oedd y fenyw gyntaf i wasanaethu ar fwrdd Undeb Rygbi Cymru.

Fel Is-Lywydd Gweithredol Mars Inc, roedd Aileen yn gyfrifol am strategaeth Adnoddau Dynol i 80,000 o gymdeithion y cwmni. Yn ogystal, roedd hi’n arwain Mars Global Services (TG Mars, Gwasanaethau Ariannol Mars a Gwasanaethau Cydymaith Mars). Roedd Aileen a’i theulu wedi’u lleoli ger Washington DC o 2008-2015. Yn ystod ei 30 mlynedd gyda Mars, bu iddi hefyd gael swyddi uwch rhyngwladol mewn caffael a gweithgynhyrchu.

Graddiodd Aileen o Surrey University gyda gradd mewn Busnes a Rheoli Twristiaeth.