Cwrdd â WNO

Alison Gillies

Soddgrwth Tutti

Mae Alison yn hanu o Swydd Wiltshire, lle’r astudiodd y soddgrwth yn breifat gyda Bruno Schrecker, cyn ennill ysgoloriaeth linynnol israddedig i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Wedi iddi raddio, treuliodd Alison flwyddyn ddifyr yn gweithio fel llyfrgellydd yn ystod y dydd a croupier gyda’r nos, cyn parhau â’i hastudiaethau ôl-radd gyda Richard Markson yn y Trinity College of Music. Yn ddiweddarach, darllenodd ar gyfer MPhil yn Bristol University. 

Roedd Alison yn gerddor llawrydd rheolaidd i WNO am 10 mlynedd cyn ymuno â’r Cwmni yn 2018. Cafodd yrfa brysur ac amrywiol yn chwarae’r soddgrwth yn llawrydd i gerddorfeydd fel Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Bournemouth Symphony Orchestra, Ulster Orchestra a’r RTE Concert Orchestra, ymysg eraill. Mae Alison wedi chwarae yn sioeau’r West End, i rai o sêr cyfres Strictly Come Dancing sef Anton du Beke ac Erin Boag, ac yn stadiwm orlawn Wembley gyda Kanye West, a hithau’n gwisgo mwgwd wyneb aur.

Yn  2015, cafodd Alison ei 15 munud o enwogrwydd pan gymerodd ran mewn perfformiad pedwarawd llinynnol byrfyfyr o Canon, gan Pachelbel (ynghyd â feiolinydd WNO Emma Waller) ar lain ganol traffordd yr M5 mewn tagfa draffig. Denodd y digwyddiad sylw’r cyfryngau’r byd wedi i fideo ar YouTube fynd yn feiral a denu mwy na miliwn o wylwyr mewn llai nag wythnos.

Ymhlith uchafbwyntiau Alison gyda WNO hyd yma mae perfformio Die Meistersinger ar BBC Proms yn 2010 a’r teithiau i’r Ffindir a Hong Kong.

Y tu hwnt i WNO, mae Alison yn rhedwr hanner marathon o bryd i’w gilydd. Mae’n mwynhau ceisio siarad sawl iaith a mynd i’r afael â chroeseiriau cryptig.