
Amber Howells
Mae Amber yn artist dawns ac awdur sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd ac mae ei gwaith yn cyfuno theatr ddawns, adrodd straeon, a symudiad corfforol deinamig. Wedi ymrwymo i hygyrchedd a dathlu cryfder benywaidd, mae hi’n mynd at ei gwaith gyda chwilfrydedd ac yn agored gan ganolbwyntio ar feithrin cysylltiadau llawen - gyda'n gilydd a’r byd naturiol.
Mae Amber wedi cael gyrfa helaeth yn gweithio ar Sex Education, Netflix, yn ogystal â gyda Krystal S. Lowe, Cwmni’r Frân Wen ac Anthony Matsena, Jones the Dance, Holly Corsi, Coco & Cwtsh, Marcus Jarrell Willis, June Campbell-Davies, Anna Watkins a Chwmni Dawns Ransack. Mae hi hefyd yn Swyddog Dawns i Quiet Beats, Young Company sy’n rhan o Jones the Dance ar gyfer pobl ifanc Byddar a Thrwm eu Clyw, ac mae’n addysgu’n rheolaidd i Ballet Cymru a Heels Empowerment.



