

Chwarae Opera YN FYW Llongddrylliad!
–Trosolwg
Hwyliwch ar y moroedd dyfnion yn ein sioe deuluol ryngweithiol
Ahoi, fy nghyfeillion! Mae’r hwyliau i fyny ac mae Chwarae Opera YN FYW yn ôl - ond y tro hwn rydym wedi ein llongddryllio!
Mae ein capten dewr, Tom Redmond yn sownd ar ynys ddiffaith, ond nid ydym yn poeni’n ormodol gan ei fod yng nghwmni gwych ei griw, sef Cerddorfa a chantorion ffydlon WNO. Gyda’n gilydd, byddwn yn eich cyflwyno i amryw o offerynnau’r gerddorfa, ynghyd â’r alawon y fydd yn eich tywys ar daith yng nghwmni ein cantorion talentog drwy ganeuon, straeon ac wrth gwrs, y gerddoriaeth wych o’r llwyfan a’r sgrîn, ein ffefrynnau i’w perfformio!
Mae’r sioe ryngweithiol ac addysgiadol hon sy’n addas i’r teulu cyfan yn gyflwyniad perffaith i fyd anhygoel opera a cherddoriaeth glasurol. Bydd y naws ymlaciol yn eich galluogi i ymgolli’n llwyr yn y gerddoriaeth, y stori a’r ddrama wrth i ni fentro dros y tonnau a dod a Tom â’i griw yn ôl i dir sych.
Nid dyma yw diwedd yr antur! Cyn i chi fynd ar HMS WNO, ymunwch â ni yn y cyntedd i brofi hud cefn llwyfan opera yn ystod ein gweithgareddau cyn y sioe, o 1pm. Dewch i weld ein gwisgoedd, gwneud eich propiau eich hun a phrofi eich sgiliau mewn gorsafoedd goleuo a sain. Os nad yw hynny’n ddigon, mae yna helfa drysor - ond, gwnewch yn siŵr eich bod yn darganfod y trysor cyn y môr-ladron drygionus!
Family concert audience memberA thoroughly entertaining concert and an excellent way of introducing the kids to all the sections of the Orchestra




Pricing
Mae tocynnau eistedd ar liniau i blant dan 2 oed ar gael yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae modd archebu'r rhain dros y ffôn ar 029 2063 6464 rhwng 12-5pm Llun i Sadwrn.
Defnyddiol i wybod
Mae'r perfformiad yn para tua awr, ac nid oes egwyl
Gweithgareddau am ddim i'r teulu yn y cyntedd o 1pm.