
Andrew Henley
Trosolwg
Yn wreiddiol o Drefynwy, astudiodd Andrew ym Mhrifysgol Caerwysg, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a’r National Opera Studio.
Yn flaenorol, ar gyfer WNO, mae wedi canu rhan Father Grenville yn Dead Man Walking, Heggie, gan ddirprwyo ar gyfer y brif ran yn Candide. Mae ei ymgysylltiadau unigol eraill wedi cynnwys cynyrchiadau gydag Opéra de Lyon, Gŵyl Immling, Mecklenburgisches Staatstheater, Glyndebourne, Scottish Opera, Opera North a Wexford Festival Opera.
Mae ei waith cyngerdd yn cynnwys: Messiah Handel (Cerddorfa Gyngerdd y Philharmonig Frenhinol), The Fairy Queen Purcell (Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham) ac Elijah Mendelssohn (Brandenburg Sinfonia).
Mae Andrew wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys Gwobr Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine 2025 yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Gwobr John Scott 2023 gan Scottish Opera a Chanwr Ifanc Cymreig y Flwyddyn Dunraven 2019.




