Cwrdd â WNO

Andy Pike

Hyfforddodd Andy yn Ysgol Ganolog Frenhinol Lleferydd a Drama, ac arbenigodd mewn dylunio sain. Mae wedi gweithio'n flaenorol ar gyfer Y Theatr Genedlaethol Frenhinol, Alton Towers, a'r BBC. Mae wedi teithio'r byd gyda'i waith, yn gweithio ar gynyrchiadau theatr, teledu a digwyddiadau mewn lleoliadau fel Brunei, Fietnam, Macau, Qatar ac Iorddonen. Mae wedi croesawu fideo erioed, ac mae bellach yn treulio llawer o'i amser yn gweithio fel arbenigwr fideo a dylunydd golau. Mae ei waith cyfredol yn cynnwys un o sioeau mwyaf blaenllaw y BBC, Strictly Come Dancing ac A Midsummer Night’s Dream ar gyfer Theatr Sherman. Mae cynyrchiadau blaenorol yn cynnwys The Black Spider (Opera Ieuenctid WNO), A Christmas Carol a The Messenger (Theatr Sherman).