
Cwrdd â WNO
April Koyejo-Audiger
Mae’r soprano o Brydain April Koyejo-Audiger yn gyn Artist Cyswllt ac Artist Cwmni Pen-blwydd Jette Parker 21-22 ar gyfer y Royal Opera. Perfformiodd Barena yng nghynhyrchiad llwyddiannus Olivier o Jenůfa, y Dama ym Macbeth (Verdi), Anna yng nghynhyrchiad Daniele Abbado o Nabucco, Parasha ym Mavra gan Stravinsky, a Zemfira yn Aleko gan Rachmaninov dan arweiniad Syr Antonio Pappano. Mae gwaith diweddar arall yn cynnwys Lost and Found, cydweithrediad gyda ROH a Casco Phil, fel rhan o’r Ŵyl Celfyddydau Europalia. Mae April yn un o raddedigion The Royal Conservatoire of Scotland a’r Royal College of Music.
Gwaith diweddar: Musetta (La bohème) ar gyfer ETO a Strawberry Woman yn Porgy and Bess gan Gershwin ar gyfer Theater an der Wien.