
Trosolwg
Mae Caroline yn gyfarwyddwr llwyfan, yn goreograffydd a chynhyrchydd, ac mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Atristig - Prif Weithredwr Feelgood Theatre Productions, lle mae’n meithrin cydweithrediadau rhyngwladol, traws-ddiwylliannol ac amlddisgyblaethol. Mae ei gwaith yn cwmpasu theatr a cherddoriaeth, gyda ffocws ar ailddychmygu clasuron, ochr yn ochr â chomisiynau anturus sy’n benodol i safle, ac sydd wedi’i wreiddio mewn ymgysylltu ar lawr gwlad. Gyda chefndir perfformio mewn theatr ffisegol, mae’n dod â dealltwriaeth o ffurf a naratif gyda phwyslais newydd i’r llwyfan operatig.
Mae ei chyflawniadau yn cynnwys: Slave – A Question of Freedom (Feelgood national tour); Gianni Schicchi a La bella dormente nel bosco (RWCMD); llwyfaniad agoriadol Liverpool Oratorio (Cincinnati Opera); Song of Our Heartland (Opera North); Tokaido Road (Cheltenham Festival); Wayne Sleep Gala (ROH); Dead Man Walking a The Threepenny Opera (Royal Conservatoire of Scotland); Orpheus a Eurydice (Scottish Opera Young Company); Lulu (Teatro Communale, Bolzano); The Night Bell (Buxton International Festival); Rigoletto (Longborough Festival Opera); Opera Quartet (Teatru Manoel, Malta); Anya17 (Ten Ten Festival, Liverpool Philharmonic); Seven Deadly Sins (Hallé Orchestra); Blaze of Glory! a Rhondda Rips it Up!, Derbyniodd enwebiadau Gwobr Opera Ryngwladol a’r Theatr Brydeinig, enwebiad Gwobr Sky Arts (WNO); a Chyfarwyddwr Adfywio, From the House of the Dead Poutney (Janáček Brno Festival, Savonlinna a Teatro Massimo, Sisili).