Cwrdd â WNO

Chris Hodges

Is-Brif Chwaraewr y Soddgrwth Rhif 3

Astudiodd Chris yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyda’r chwaraewr soddgrwth enwog o Gymru, George Isaac, cyn ennill ysgoloriaeth i astudio ymhellach yn Llundain.

Cyn ymuno â WNO, bu Chris yn gweithio am gyfnod byr fel chwaraewr llawrydd yn Llundain. Ac yntau’n aelod o’r Gerddorfa ers cryn amser, mae Chris yn mwynhau cydweithio gyda chyfeillion yn ystod perfformiadau cerddoriaeth siambr. Yn ystod blynyddoedd cynharach, ffurfiodd Chris bedwarawd llinynnol y New Welsh String Quartet a chwaraeai mewn cyngherddau ar gyfer cymdeithasau cerddoriaeth, mewn ysgolion a phrifysgolion, ac yn fwy diweddar, deuawd ar y soddgrwth.

Uchafbwyntiau personol Chris gyda WNO hyd hyn yn cynnwys perfformio operâu Mozart, Janáček a Berlioz gyda Charles Mackerras, y repertoire Eidalaidd a Bel Canto gyda Carlo Rizzi, cyngherddau cerddorfaol gyda Lothar Koenigs, ac yn fwy diweddar Dvořák a Shostakovich gyda Chyfarwyddwr Cerddoriaeth presennol WNO, Tomáš Hanus. Fel aelod o adran y soddgrwth, mae Chris wedi mwynhau yn fawr eu cyfraniad diweddar i Eugene Onegin a Tosca.

Diddordebau Chris y tu hwnt i WNO yw darllen, gwrando ar gerddoriaeth (clasurol a jazz yn bennaf), cerdded mynyddoedd a chwarae golff. Ar hyn o bryd mae’n byw yn Nhonyrefail gyda’i wraig Janet, eu tri o blant a dau o wyrion, ac mae un arall ar y ffordd. Mae Chris yn ymwneud â cherddoriaeth yn y gymuned, lle bo hynny’n bosibl, a dros y degawd diwethaf, trefnodd gyfres o ddatganiadau cerddoriaeth siambr am ddim, gyda chymorth cyfeillion yn Nhonyrefail.