Cwrdd â WNO

Christopher Vale

Is-Brif Chwaraewr Basŵn

Astudiodd Christopher yn yr Royal College of Music o dan Kerry Camden a enillodd wobr Arthur Somerville Bassoon. Fe dderbyniodd ei ARCM ar y Basŵn a’r ARCM ar y Piano.

Cyn ymuno a WNO dros 30 mlynedd yn ôl, mi oedd Christopher yn llawrydd yn Llundain yn gweithio yn Sadler’s Wells Royal Ballet yn ogystal â bod yn ecstra ar gyfer sawl cerddorfa yn Llundain. Mae hefyd wedi bod yn brif chwaraewyr basŵn ar gyfer Gwasanaethau Cerddorfaol gan gynnwys gwaith gyda’r cwmnïau bale Ciwba, Awstralia a Houston.

Mae Christopher ar hyn o bryd yn Is-Brif Chwaraewr Basŵn yn ogystal â’r Basŵn Ddwbl gyda Cherddorfa WNO lle mae ei waith ar y Basŵn Ddwbl wedi cynnwys Wozzeck, The Ring Cycle, Salome ac Elektra.

Mae ei uchel bwyntiau personol gyda WNO yn cynnwys Pelléas et Mélisande gyda Pierre Boulez a recordio WNO gyda Syr Charles Mackerras.

Mae Christopher yn dysgu’r basŵn a phiano yn Cathedral School Llandaf, yn ogystal â gweithio yng ngholeg Brenhinol Cerdd a dram Cymru fel tiwtor Basŵn a Basŵn Ddwbl. Hefyd, mae wedi bod yn Bennaeth Gweithredu o’r Junior Music and Access Studies a nawr yn gweithio ar brosiectau ymestyn gyda’r Coleg.

Yn ychwanegol i hyn mae Christopher yn gydlynydd prosiect i WNO yn yr adran Ieuenctid a’r Gymuned, yn gweithio’n bennaf gyda’r lleoliadau gwaith yn y Gerddorfa a chynlluniau ochr-yn-ochr gyda CBCDC, Royal Birmingham Conservatoire a Trinity Laban. Hefyd mae wedi bod yng nglŵm gydag Opera Ieuenctid WNO wrth fod yn hyfforddwr ac arweinydd, yn perfformio The Mikado, Sweeney Todd ac yn fwy diweddar Kommilitonen! gan Peter Maxwell-Davies

I ffwrdd o WNO, mae Christopher yn mwynhau cychod camlas, garddio a chefnogi adferiad o’r Gamlas yn y Cotswold.