
Constança Simas
Yn ystod Tymor 2021/2022, perfformiodd Constança am y tro cyntaf gyda Southbank Sinfonia. Mae'n Arweinydd Cynorthwyol ar gyfer amrywiaeth o berfformiadau gyda BBC NOW, Opera Cenedlaethol Cymru ac Orquestra sem Fronteiras. Mae'n rhan o raglen WoCo Gateshead, ac roedd hefyd yn rhan o gyfnod preswyl rhaglen Young Women Opera Makers yn yr Académie du Festival d’Aix. Mae Constança wedi perfformio gweithiau am y tro cyntaf gan gyfansoddwyr Portiwgeaidd, ac wedi dyfeisio sioeau i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach. Yn ddiweddar, graddiodd gyda Rhagoriaeth o'i chwrs MMus mewn Arwain Cerddorfaol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn nosbarth yr Athro David Jones. Mae wedi arwain cerddorfeydd fel Cerddorfa Ffilharmonig Malta, Cerddorfa Ffilharmonia Athen, Cerddorfa Fetropolitan Lisbon a Cherddorfa Symffoni Ealing. Yn ogystal, arweiniodd gynhyrchiad o Venus and Adonis (Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru) ac mae ganddi radd Baglor mewn Arwain Cerddorfaol o Academia Nacional Superior de Orquestra.