Cwrdd â WNO

David Hersey

Mae David Hersey wedi dylunio’r goleuo ar gyfer canoedd o ddramau, sioeau cerdd, operâu a bale. Mae ei wobrau niferus yn cynnwys Tony Awards am Best Lighting Design ar gyfer Evita, Cats a Les Misérables, yr Olivier Award am Best Lighting Design ar gyfer Burning Blue, The Glass Menagerie a Twelfth Night, enwebiadau Tony am The Life and Times of Nicholas Nickleby, Starlight Express, Miss Saigon a Oklahoma! ac enwebiadau Olivier am Oliver, Glengarry Glen Ross, Martin Guerre, Oklahoma!, South Pacific, My Fair Lady a The Coast of Utopia. Dyluniodd David Equus yn West End Llundain aeth ymlaen i gael ei berfformio ar Broadway ble enillodd y Drama Desk Award.

Gwaith diweddar: Fiddler on the Roof, Show Boat, Merrily We Roll Along