Cwrdd â WNO

Davy Cunningham

Mae'r Albanwr Davy Cunningham wedi cynllunio goleuadau ar gyfer mwy na 250 o gynyrchiadau opera ledled Prydain ac ar gyfer y rhan fwyaf o gwmnïau opera mawr Ewrop o Antwerp i Zürich yn ogystal ag yn Awstralia a Gogledd America. Mae ei waith yn cwmpasu gosodiadau golau anferth ar y llyn yng Ngŵyl Bregenz yn ogystal ag agosatrwydd Palas Schönbrunn Mozart.

Gwaith diweddar: Dylunydd Goleuo L’elisir d’amore (Oper Leipzig); Platée (Semperoper, Dresden); Die Fledermaus (Deutsche Oper Berlin)