Cwrdd â WNO

Dr. Chitra Bharucha

Penodiad mwyaf diweddar Dr Chitra Bharucha oedd fel Cadeirydd FIT Biotech Oy, cwmni biotech o’r Ffindir.

Yn dilyn gyrfa mewn Meddyginiaeth fel Dirprwy Gyfarwyddwr, Trallwysiad Gwaed Gogledd Iwerddon a Haematolegydd Ymgynghorol Clinigol, Ysbyty Dinas Belfast, gwasanaethodd Chitra mewn amryw o rolau rheoleiddiol yn arbenigo mewn llywodraethiant corfforaethol. Mae hi’n cadeirio Paneli Dyfarnu Addasrwydd i Ymarfer y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn dilyn cyfnod o wasanaethu fel aelod o’r Cyngor. Cafodd ei phenodi’n Is-gadeirydd gan ddod yn Gadeirydd Dros Dro ar ddyfodiad Ymddiriedolaeth y BBC.

Yn ystod ei gyrfa yn y GIG, gwasanaethodd Chitra ar amryw o bwyllgorau cenedlaethol a rhyngwladol a chynghorau gan gynnwys Panel Cynghorol Arbenigol y WHO ar gyfer Cynnyrch Gwaed.

Mae apwyntiadau blaenorol yn cynnwys cyfarwyddwr anweithredol Awdurdod Trawsblannu’r DU, Gogledd Iwerddon, Aelod o’r Comisiwn Teledu Annibynnol (ITC), Cyngor Darlledu’r BBC ar gyfer Gogledd Iwerddon, Asiantaeth Safonau’r Awdurdod Safonau Hysbysebu, Ymddiriedolwr Gofal Canser Marie Curie, Aelod Lleyg o’r Corff Adolygu ar Gyfer Cwynion Cyfreithiol a gwirfoddolwr ers blynyddoedd lawer gyda’r Samariaid.

Dyfarnwyd yr MBE iddi yn 2009 am ei gwasanaeth i’r diwydiant bwyd anifeiliaid.

Ganed Chitra yn Madurai, India ac mae hi wedi bod yn byw yn y DU ers 1972.