Emily Christina Loftus
Daw’r soprano Emily Christina Loftus o Ogledd Lloegr ac mae’n Artist Cyswllt Opera Cenedlaethol Cymru 2023/2024. Graddiodd Emily o’r Royal College of Music, lle gweithiodd gyda Rosa Mannion gyda Patricia MacMahon a gefnogwyd gan y Leverhulme Arts Scholarship. Derbyniodd radd dosbarth cyntaf o’r Royal Conservatoire of Scotland, lle cwblhaodd ei gradd israddedig fel Ysgolhaig RCS, gan astudio gyda Patricia MacMahon.Mae Emily yn Artist Samling ac yn Artist Oxford Lieder 2022-2024.
Mae ei rolau diweddar yn cynnwys Gretel Hänsel und Gretel (Opera Holland Park, YA), Merch 2 Akhnaten (dirprwy ENO), Pamina The Magic Flute (Opera North, WSO), Papagena Die Zauberflöte (RCMIOS) ac Evita/Merch mewn Jîns Scoring a Century (British Youth Opera). Mae Emily wedi canu yng Nhorws English National Opera, Opera North a’r Glyndebourne Festival.
Yn y neuadd datganiad, dychwelodd Emily i Oxford Leider fel rhan o’r Gŵyl Gân y Gwanwyn 2023 a pherfformiodd yng nghyfres Opera in Song Opera Holland Park. Mae ei gwaith datganiad blaenorol yn cynnwys datganiad Oxford Lider Emerging Artist ochr yn ochr gyda’r soprano Mary Bevan a datganiad gwestai yn Howdenshire Music.
Mae llwyddiannau Emily wrth gystadlu yn cynnwys cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobr Ganu Gwlad yr Haf a chyrraedd y rownd gynderfynol y Gwobrau Kathleen Ferrier 2022, Cystadleuaeth Leisiol y Royal Overseas League a Chystadleuaeth Leisiol Ryngwladol y Premiere Opera Foundation.
Perfformiadau WNO y dyfodol: Gwerthwr Mefus Death in Venice; Chwaer Gardod 1 Sour Angelica; Lauretta (dirprwy) Gianni Schicchi; Carwr Ifanc (dirprwy) Il tabarro; unawdydd yn nheithiau Chwarae Opera YN FYW, Dathliad Fiennaidd a Ffefrynnau Opera.