Cwrdd â WNO

Emma Carrington

Ganed Emma Carrington yn Swydd Hertford a chwblhaodd ei hastudiaethau ar Gwrs Opera’r Royal Academy of Music. Gwnaeth ei hymddangosiad rhyngwladol cyntaf yn chwarae rhan Baba the Turk The Rake’s Progress, dan arweiniad David Syrus yn y Teatro di Santiago. Chwaraeodd Carrington ran Brenhines Nefertiti yng ngwaith Philip Glass, Akhnaten ar gyfer English National Opera, a ddarlledwyd yn fyw ar BBC Radio 3.

Gwaith diweddar: Y Drydedd Foneddiges The Magic Flute (WNO); Roßweiße Die Walküre (Royal Opera); Hyppolyta A Midsummer Night's Dream (English National Opera); Prinz Orlofsky Die Fledermaus (WNO)