Cwrdd â WNO

Emma Menzies

Feiolin Gyntaf Tutti

Dechreuodd Emma astudio piano pan oedd yn bedair ac fe ddechreuodd chwarae’r feiolin yn naw mlwydd oed ar ôl cael cynnig gwersi am ddim gyda’r ysgol. Mi oedd yn ddigon lwcus i gael ei magu yn Hertforshire lle derbyniodd hyfforddiant cerddorfaol arbennig gan y gwasanaeth gerddoriaeth tan oedd yn ddeunaw.

Parhaodd Emma ei hastudiaethau yn Manchester University, lle cafodd ei haddysgu ar y feiolin gan Peter Cropper, arweinydd yr Lindsay String Quartet. Astudiwyd wedyn gyda’r athro nodedig feiolin, Simon Fischer a chwblhaodd Gradd Meistr mewn Perfformiad o’r RSAMD. Ac yn olaf aeth Emma i’r Guildhall School of Music & Drama lle chafodd ei haddysgu gan  Krysia Osotovicz, a oedd yn ddisgybl Menuhin ac sydd yn arweinydd presennol o’r Dante String Quartet.

Cyn ymuno â WNO, perfformiodd Emma gyda nifer o gerddorfeydd Prydeinig fel perfformiwr llawrydd gan gynnwys Royal Philharmonic Orchestra, Bournemouth Symphony Orchestra, Ulster Orchestra, RTE. RSNO ac Northern Ballet. Hefyd mae hi wedi gweithio gyda sawl grŵp pop, y mwyaf nodedig yn eu plith oedd teithio’r byd gyda’r grŵp o’r Alban, Belle and Sebastian a recordio yn Texas.

Mae uchel bwyntiau personol Emma gyda WNO hyd yn hyn yn cynnwys perfformio Der Meistersinger yn y BBC Proms yn yr Royal Albert Hall.

Ymrwymiadau cerddorol arall Emma yn cynnwys perfformio gyda’i efail, y soprano Ruth Kerr, fel unawdwr ar y feiolin a chyfeilydd.