Tra oedd Emma yn yr ysgol ac yn University of Sheffield, astudiodd gyda David Gregory (Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham). Wedi hynny, enillodd gradd MA o’r Conservatoire yn Birmingham a pharhaodd gyda’i hastudiaethau dan arweiniad Catherine Lord yng Ngwlad yr Haf.
Cyn ymuno â WNO yn 2003, treuliodd Emma chwe mis ym Mhortiwgal yn feiolínydd cyntaf gyda’r Orquestra do Norte, cyn troi’n llawrydd a dysgu yn Ne-orllewin Lloegr.
Mae Emma wrth ei bodd gyda repertoire amrywiol Cerddorfa’r WNO. Ymhlith ei huchafbwyntiau personol mae chwarae yn La Bohème gyda Carlo Rizzi (yn ystod egwyl perfformiad yn 2003 y cynigiwyd ei swydd iddi!), Die Meistersinger yn y BBC a’r BBC Proms gyda Lothar Koenigs, Moses und Aron gan Schoenberg, Hänsel und Gretel gan Humperdinck, a chwarae gyda Kate Woolveridge a Chorws gwych elusen ‘Forget-Me-Not’ ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia.
Y tu hwnt i’r WNO, mae Emma yn mwynhau treulio amser gyda’i theulu, rhedeg, nofio a cherdded.