Cwrdd â WNO

Erin Gwyn Rossington

Mae’r soprano Erin Rossington yn Artist Cyswllt WNO 2024/2025. Cafodd ei magu ger Llanfair Talhaiarn yng Ngogledd Cymru ac astudiodd ar gyfer ei gradd israddedig yn y Royal Northern College of Music a’i gradd ôl-raddedig ac ar y cwrs opera yn y Guildhall School of Music & Drama. Ymhlith ei rolau mae Maguelonne Cendrillon, Miss Fortune Miss Fortune, Mimì La bohème, Fiordiligi Così fan tutte, a Vitellia La clemenza di Tito. Gwnaeth Erin ei hymddangosiad cyntaf yng Ngŵyl Aldeburgh fel Ina yn TIDE yn 2022 a pherfformiodd fel Lady Billows yn Albert Herring ar gyfer Clonter Opera. Mae Erin yn gyson ar lwyfan y gystadleuaeth, gan ennill gwobr Llais Rhyngwladol y Dyfodol yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Gwobr Goffa Elizabeth Harwood 2019 yr RNCM, ac Ysgoloriaeth Towyn Roberts yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2023. Cafodd ei dewis hefyd fel cystadleuydd rownd derfynol cystadleuaeth Vincerò yn Verona yn 2023.

Gwaith diweddar: Micaëla La Tragédie de Carmen (2024 Buxton International Festival).