Cwrdd â WNO

Fabrice Kebour

Mae Fabrice Kebour yn un o ddylunwyr goleuo mwyaf blaenllaw Ewrop. Mae wedi gweithio yn y theatrau rhyngwladol mwyaf mawreddog gan gynnwys La Comédie Francaise, Opéra National de Paris, Wiener Staatsoper, Bregenzer Festpiele, Teatro alla Scala, Mariinsky Theatre, Théâtre Royal de la Monnaie a'r Lyric Opera of Chicago. Mae Fabrice wedi derbyn tri enwebiad Molière ac un enwebiad Gwobrau Theatr Cymru am y dyluniad goleuo gorau.

Gwaith diweddar: Dylunydd Goleuo Die aegyptische Helena (Teatro alla Scala, Milano); La puce à l’oreille (Comédie Français, Paris); Un ballo in maschera (WNO)