Cwrdd â WNO

Fiona Harrison-Wolfe

Soprano

Astudiodd Fiona Harrison-Wolfe gerddoriaeth ym Mhrifysgol Durham ac yna aeth ymlaen i’r Coleg Cerdd Brenhinol lle bu’n astudio canu gydag Elizabeth Robson, cyn ymuno â Chorws WNO yn 2002. Astudiodd Fiona hefyd gyda Dennis O’Neill yn Academi Llais Rhyngwladol Cymru.

Mae Fiona wedi cael llawer o uchafbwyntiau yn WNO hyd yma, gan gynnwys ei hymddangosiad cyntaf yn Covent Garden yn Moses und Aaron; Donna Elvira Don Giovanni, First Lady The Magic Flute a chaneuon poblogaidd yn cynnwys Leonora Il trovatore, Nedda Pagliacci, Liu Turandot a Pamina The Magic Flute