Cwrdd â WNO

Gareth Dafydd Morris

Tenor

Astudiodd Gareth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a’r Royal Academy of Music.

Ers ymuno â Chorws WNO, mae Gareth wedi canu rhannau Cherevin a’r llais ‘oddi ar y llwyfan’ yn From the House of the Dead, Streshnev yn Khovanshchina, Kaherdin yn Le Vin Herbe, Major-Domo Faninal yn Der Rosenkavalier a bu’n dirprwyo ar gyfer rhan Pinkerton yn Madam Butterfly. Mae wedi perfformio fel unawdydd yng Nghyngherddau i’r Teulu WNO yng Nghaerdydd a Hong Kong.

Mae Gareth wedi perfformio rhan Faust yn Mefistofele, prif ran Roberto Devereux ar gyfer Opera Valladolid, a rhannau eraill i Opera Holland Park ac Opera Grange Park. Hefyd, mae’n canu mewn cyngherddau ac oratorios a darlledodd yn unawdydd ar BBC Radio 3 a 4 gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’r Gerddorfa Ffilharmonig y BBC.

Daeth Gareth yn ail yng Nghystadleuaeth Canu Cymdeithas Wagner yn Nhachwedd 2015 a derbyniodd Wobr y Llywydd, a gyflwynwyd gan y Fonesig Gwyneth Jones.