Cwrdd â WNO

Giselle Allen

Graddiodd Giselle Allen o Brifysgol Cymru cyn dilyn astudiaethau lleisiol yn Guildhall School of Music and Drama ac yn y Royal Academy of Music yn Llundain ble mae hi bellach yn artist cyswllt. Wedi’i geni yn Belfast, Gogledd Iwerddon, mae wedi ymddangos mewn sawl cynhyrchiad gyda Northern Ireland Opera, gan gynnwys Salome, portread a enillodd adolygiadau rhagorol iddi.

Gwaith diweddar: Tosca Tosca, Salome Salome (Opera North); Ellen Orford Peter Grimes (Gŵyl Ryngwladol Bergen); Mimì La bohème (Northern Ireland Opera)