Astudiodd Helen gerddoriaeth ym Mhrifysgol Yn Leeds University ac astudiodd ganu yn breifat ac yn yr Royal Academy of Music.
Dechreuodd yrfa lwyfan Helen gyda chorws D'Oyly Carte Opera Company a pherfformiodd prif ran Carmen i’r London City Opera ar eu taith o Unol Daleithiau America. Mae Helen bob amser yn mwynhau creu cerddoriaeth yn y gymuned; cyn ymuno â WNO bu’n gweithio dipyn i elusen Music in Hospitals & Care, yn cynnal cyngherddau dirifedi mewn ysbytai, cartrefi nyrsio a chartrefi preswyl.
Gan fod Helen wedi cymryd rhan mewn cynifer o gynyrchiadau cyffrous WNO ac wedi cael cymaint o brofiadau cerddorol cyfoethog, roedd dewis uchafbwynt yn dasg rhy anodd iddi. Yn hytrach, dewisodd rhywbeth gwahanol o’i swydd o ddydd i ddydd - gofynnwyd iddi fodelu ar gyfer gwaith celf y poster o gynhyrchiad sydd ar y gweill gennym o Roberto Devereux: ‘Mae fy ffrindiau o Gorws WNO yn gorfod edrych ddwywaith wrth iddynt ddyfalu pam fod y Frenhines Elizabeth I yn edrych mor gyfarwydd!’
Diddordebau Helen y tu hwnt i WNO yw crwydro cefn gwlad ac mae’n teimlo’n lwcus i fod yn byw yng Nghaerdydd ble nad oes raid teithio’n rhy bell i brofi byd natur. Mae hi hefyd yn chwarae’r ukulele a’r gitâr.