Henry Little
Penodwyd Henry Little yn Brif Weithredwr Opera Rara ym mis Tachwedd 2015. Ers hynny, mae wedi arwain sawl prosiect i'r cwmni, Zazà ac Echo ac Espoir, y cafodd y tair eu henwebu ar gyfer Gwobr Opera Ryngwladol am y recordiad opera gorau. Yn gyn Brif Weithredwr yr elusen cerddoriaeth genedlaethol, Orchestras Live am saith mlynedd, arweiniodd Henry Little bartneriaethau arloesol a dyfeisgar gyda cherddorfeydd Prydain, gan fynd â'u gwaith i ardaloedd heb wasanaeth digonol yn Lloegr.
Mae ganddo hanes blaenorol hir ac amrywiol o weithio ym maes opera, a ddechreuodd gyda thair blynedd fel cyfarwyddwr llwyfan llawrydd, cyn ymuno ag English National Opera fel Cyfarwyddwr Staff. Symudodd Henry am gyfnod byr i weithio i British Youth Opera fel Rheolwr Cyffredinol a Rheolwr Cwmni, ac yna i'r cwmni Artists Management. Gweithiodd yng Nghyngor Celfyddydau Lloegr lle'r oedd yn Bennaeth Opera am ddeng mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw ffurfiodd gysylltiadau gweithio agos a rhagweithiol gyda chwmnïau opera mwyaf y DU, gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru.
Henry yw Cadeirydd y Pwyllgor Cydlynu Opera Cenedlaethol yn y DU, ac o 2009 i 2015, ef oedd Cadeirydd Rheithgor Gwobrau'r Royal Philharmonic Society ar gyfer Opera a Theatr Cerdd. Mae wedi bod yn aelod rheithgor ar gyfer Gŵyl a Chystadleuaeth Opera Armel yn Budapest ers 2010. Roedd yn Ymddiriedolwr Mahogany Opera Group o 2013 i 2017. Yn 2017 a 2018 roedd yn aelod o'r rheithgor Opera ar gyfer Gwobrau Olivier yn Llundain.