Cwrdd â WNO

Iain Gibbs

Ail Feiolín Tutti

Cwblhaodd Iain ei Radd Israddedig yn Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance, yn astudio gyda John Crawford. Cwblhaodd ei Radd Meistr yn yr Royal College of Music, lle bu’n astudio gyda Detlef Hahn.

Cyn ymuno â WNO, roedd Iain yn gweithio’n llawrydd gyda cherddorfeydd, tebyg i John Wilson Orchestra, Cerddorfa Symffoni’r BBC a Royal Northern Sinfonia ledled y DU. Mae’n parhau i fwynhau gweithio gyda’r cerddorfeydd hyn pan fo’n bosibl.

Un o uchafbwyntiau Iain yn WNO hyd yma oedd dysgu a pherfformio Der Rosenkavalier, a chwarae rhannau’r Ail Feiolín  yn operâu Mozart: ‘Cyffro, her a digonedd o hwyl yn un pair!’

Y tu hwnt i WNO, mae Iain yn mwynhau treulio amser gyda’i gyfeillion mynwesol, yn chwarae a gwylio tenis, yn cerdded, bod yn yr haul a chrwydro’r byd.