James Southall
Trosolwg
Mae James Southall yn arweinydd, pianydd a hyfforddwr gyda WNO. Astudiodd yn Queens’ College, Caergrawnt a’r Royal College of Music, ble hyfforddodd gyda Roger Vignoles a John Blakely. Mae wedi arwain sawl cwmni opera a cherddorfa ddylanwadol yn cynnwys English Touring Opera, Sinfonia Cymru, L'orchestra Haydn di Bolzano e Trento, Camerata Nordica ac Opéra de Baugé. Mae hefyd wedi bod yn Arweinydd Cynorthwyol i Carlo Rizzi, Tomáš Hanus, Lothar Koenigs a Mark Wigglesworth. Enillodd James yr Accompanist’s Prize yn y Kathleen Ferrier Awards ac mae wedi gweithio gyda Syr Bryn Terfel, Rebecca Evans, Elizabeth Watts ac Ailish Tynan. Mae wedi perfformio yn Wigmore Hall ac yn fyw ar BBC Radio 3. Mae ei brosiectau diweddar yn cynnwys arwain dwy opera Menotti o’r piano gyda Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth gweithdy Trioleg Mozart/da Ponte yn La Monnaie, Brussels, ac Arweinydd Cynorthwyol ar gyfer Moses und Aron Schoenberg yn y Teatro Real, Madrid.
Gwaith diweddar: Arweinydd Roberto Devereux, La traviata, Don Giovanni, Die Fledermaus, Le Vin herbé (WNO)