
Cwrdd â WNO
Jess Dandy
Trosolwg
Cyrhaeddodd y gontralto o Gymbria, Jess Dandy, restr fer Gwobr Perfformiwr Ifanc y Royal Philharmonic Society. Hi oedd yr unawdydd contralto yn y First Night of the Proms 2021. Cafodd ei pherfformiad cyntaf yn Wigmore Hall a'i datganiad unigol gyda Malcom Martineau yn Neuadd Gyngerdd Perth eu darlledu ar Radio 3.
Gwaith diweddar: Unawdydd yn Serenade to Music (BBC Symphony Orchestra) gan Vaughan Williams; Unawdydd yn St Matthew Passion (Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC) gan Bach; Unawdydd yn Symffoni Rhif 8 gan Mahler (Minnesota Orchestra); Unawdydd yn Messiah gan Handel (Britten Sinfonia); a chanu rôl Bradamante yn opera Vivaldi Orlando furioso (La Seine Musicale).