
Cwrdd â WNO
Joan Anton Rechi
Ganed Joan Anton Rechi yn Andorra ac astudiodd y theatr yn y Instituto del Teatro yn Barcelona a hanes ym Mhrifysgol Barcelona. Dechreuodd ei yrfa fel actor mewn ffilm, theatr a theledu ac yn ddiweddarach daeth yn gyfarwyddwr, gan weithio'n bennaf mewn theatr yn Sbaen. Cafodd Rechi ei brofiad proffesiynol cyntaf o gyfarwyddo opera yn Barcelona yn 2003 gyda Orphée aux enfers gan Offenbach ac ers hynny mae ei repertoire wedi cynnwys amrywiaeth eang o arddulliau a chyfnodau.
Gwaith diweddar: Cyfarwyddwr L'italiana in Algeri (Teatro Colón); Don Giovanni (Theater Aachen); Love Life (Deutsche Oper am Rhein)
Gwaith i ddod: Cyfarwyddwr Madama Butterfly (Deutsche Oper am Rhein)