Cwrdd â WNO

Jonathan Burgess

Prif Chwaraewr yr Adran Ffliwt

Daeth Jonathan yn aelod o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Prydain tra roedd yn yr ysgol. Darllenodd gerddoriaeth yn New College, Rhydychen cyn parhau gyda’i astudiaethau ôl-radd yn y Royal College of Music gyda’r ffliwtydd Sebastian Bell.

Cyn ymuno â WNO, treuliodd Jonathan saith mlynedd yn chwarae’n llawrydd yn Llundain, gan weithio’n bennaf gyda London Sinfonietta, City of Birmingham Symphony Orchestra a WNO.

Un o uchafbwyntiau personol Jonathan gyda WNO hyd yma yw gweithio gyda Pierre Boulez ar Pelleas et Melisande.

Y tu hwnt i WNO, diddordebau Jonathan yw hwylio, caiacio môr o gwmpas arfordir Cymru a Llydaw. Mae hefyd yn mwynhau cerdded yn Ardal y Llynnoedd.