Cwrdd â WNO

Julie Doyle

CODA (defnyddiwr BSL brodorol gyda rhieni Byddar) yw Julie. Bu’n dehongli’n llawrydd yng Nghaerdydd a thu hwnt ers 30 mlynedd, gydag antur dwy flynedd yn Seland Newydd yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae ei gyrfa wedi mynd â hi o lysoedd i gynadleddau, ac o ddarllediadau Llywodraeth Cymru i’r cae rygbi. Yn ogystal, derbyniodd Wobr Goffa Jackie Moore, yn dilyn pleidlais gan Gymuned Fyddar De Cymru i gydnabod ei gwasanaeth.

Mae Julie yn angerddol dros y theatr a pherfformio. Mae wedi dehongli mewn gwyliau, cyngherddau a theatrau ledled y DU, gan gynnwys ar gyfer pantomeimiau, dramâu Shakespeare a theatr gymunedol yn yr awyr agored, yn ogystal â Glastonbury a Neuadd Frenhinol Albert. Fel athrawes ac asesydd cymwysedig, mae hi hefyd yn addysgu a mentora dehonglwyr dan hyfforddiant, a chyflwyno mewn cynadleddau nodedig yn y DU ac yn Ewrop.