Cwrdd â WNO

Jullia Sitkovetsky

Hyfforddodd Julia Sitkovetsky, y soprano Brydeinig-Americanaidd, yn y Guildhall School of Music & Drama, a pharhaodd ei hastudiaethau gyda Marie McLaughlin a Susan Roberts. Perfformiodd am y tro cyntaf yn 16 oed yn Glyndebourne Festival Opera ac English National Opera, yn dirprwyo ar gyfer rôl Flora (The Turn of the Screw). Ymddangosodd Julia ar hyd a lled Ewrop, mewn lleoliadau megis Staatsoper Hannover, Deutsche Oper am Rhein, Semperoper Dresden, Komische Oper Berlin a Scottish Opera. Yn ogystal, mae Julia wedi perfformio yn Wigmore Hall a Snape Maltings, a pherfformiodd ganeuon gan Shostakovich gyda’i thad, Dmitry Sitkovetsky, mewn gŵyl Shostakovich Rhyngwladol yn Dresden ac yn y Petworth Festival. Hwn yw perfformiad cyntaf Julia gyda WNO.

Gwaith diweddar: Gilda (Rigoletto), Ida (Henze’s Der junge Lord), Fernando Cortez (Vivaldi’s Motezuma), Le Feu / La Princesse / Le Rossignol (L’Enfant et les sortilèges), Waldvogel (Siegfried), a Queen of the Night (Die Zauberflöte).