
Cwrdd â WNO
Jurgita Adamonytė
Ganed Jurgita Adamonytė yn Lithuania a graddiodd gyda Diploma Meistr mewn Cerddoriaeth o Academi Gerdd Lithuania, cyn mynd ymlaen i astudio yn y Koninklijk Conservatorium, yr Academi Gerdd Frenhinol a’r Academi Llais Rhyngwladol yng Nghaerdydd. Gwnaeth Adamonytė ei hymddangosiad cyntaf yn chwarae rhan Zerlina yn Don Giovanni gydag Opera Genedlaethol Lithuania. Ers hynny, mae hi wedi ymddangos yn y Royal Opera House a’r Salzburger Festspiele.
Gwaith diweddar: Stéphano Roméo et Juliette (National Centre for the Performing Arts) Octavian Der Rosenkavalier (Deutsche Oper am Rhein); Mélisande Pelléas et Mélisande (WNO)