Cwrdd â WNO

Kalle Kuusava

Enillydd yr European Conductors Competition yn Oslo yn 2013 a derbynnydd Gwobr Evgeny Svetlanov ym Mharis yn 2014, mae Kalle Kuusava o'r Ffindir ar alw fel arweinydd operatig a symffonig. Mae wedi adeiladu repertoire operatig enfawr, wedi gweithio i’r Norwegian National Opera o 2008 tan 2016 a threulio tymor 2007/08 yn y Zurich Opera. Mae wedi cynorthwyo arweinyddion dylanwadol fel Jukka-Pekka Saraste, Hannu Lintu, Fabien Gabel a Tomáš Hanus.

Gwaith diweddar: Arweinydd Madama Butterfly (Savonlinna Opera Festival); Maid of Pskov (Mariinsky Theatre); La Traviata (Theater an der Wien), ac ymddangosiad cyntaf gyda Stockholm Philharmonic Orchestra.