Cwrdd â WNO

Kate Woolveridge

Ganwyd Kate Woolveridge yng Nghaerdydd ac astudiodd ym Mhrifysgol Sheffield a’r Royal Academy of Music lle derbyniodd fwrsariaeth Alfreda Hodgson. Mae hi wedi canu gyda chwmnïau opera blaenllaw yn y DU ac Iwerddon ac mae’n addysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Cyd-sefydlodd Woolveridge Côr Forget Me Not yn 2011 a’r flwyddyn ddilynol dyfarnwyd teitl Menyw Ysbrydoledig y Flwyddyn iddi gan ITV.