
Cwrdd â WNO
Katherine Reid
Mae Katherine yn soprano Albanaidd yn ei thrydedd flwyddyn, sy’n astudio ar hyn o bryd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Fel plentyn, roedd yn aelod o gôr Abaty Paisley yn yr Alban lle bu’n canu ar raglen Songs of Praise y BBC. Fe aeth hi ymlaen wedyn â’i hastudiaethau yng Nghonservatoire Iau y Royal Conservatoire of Scotland, gan barhau i ganu ar gyfer cynyrchiadau’r BBC. Ar hyn o bryd, mae Katherine yn aelod o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, a fu’n perfformio’n ddiweddar yn y BBC Proms.