Cwrdd â WNO

Katherine Thomas

Prif Chwaraewr y Delyn

Mae’n wir i ddweud fod calon Katherine wedi bod yng Nghymru erioed. Magwyd ym Mhontypridd ac mae bellach wedi ymgartrefu yn ôl yno - gyda’i merch Mari.

Fe’i haddysgwyd drwy gyfrwng y Gymraeg, gydag Alwena Roberts a Meinir Heulyn yn brif athrawon delyn iddi. Buodd yn gystadleuydd brwd yn holl Eisteddfodau Cymru cyn symud i’r ddinas fawr ddrwg yn Llundain ac ymgymryd â gradd yn y Guildhall School of Music & Drama (ble’r astudiodd gyda David Watkins).

Chwarae cerddorfaol sydd wedi bod yn graidd i yrfa Katherine erioed. Buodd yn hynod ffodus i weithio’n agos gyda Robert Johnston (telynor CBSO) ac i drafeilio’r byd gyda’r gerddorfa o dan arweinyddion megis Simon Rattle, Sakari Oramo, a Mirga Grainytè-Tyla.

Fel telorynes llaw-rydd, a bellach fel aelod o’r gerddorfa, teimlad o fod nol adre yw chwarae gyda Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Braint o’r mwyaf yw i weithio gydag arweinydd fel Carlo Rizzi sy’n gallu dod a chymaint i weithiau cyfansoddwyr megis Puccini a Verdi. Braf yw cael edrych nol a chofio un o’r profiadau cyntaf y ges i gyda’r cwmni - yn cyfeilio o ochr y llwyfan i’r tenor Dennis O’Neill yn Cavalleria Rusticana.

Fel y dywed ei chyd-weithwyr, prin fod Katherine yn aros yn llonydd mewn ymarferion. Os oes ganddi torraeth o fariau i gyfri, mae’n aml yn adolygu cerddoriaeth; ei phrosiect ar hyn o bryd yw trefnu holl Preludes a Fugues Bach i’r delyn (gan weithio’n agos gyda chwmni cyhoeddi Alaw). Tu hwnt i’r cwmni, mae’n gweithio gyda’r feiolinydd Laurence Kempton yn y Ddeuawd Enigma, ac mae hefyd yn aelod o’r Alvor Ensembl.