
Kenneth Overton
Mae’r Bariton Kenneth Overton yn perfformio am y tro cyntaf gydag Opera Cenedlaethol Cymru fel Pero Jones/Chief Mistawasis yn y cynhyrchiad clodwiw o Migrations. Ar ôl hynny, bydd wedyn yn canu rôl King Duncan yn The Shoemaker WNO. Mae Kenneth yn artist a enillodd Wobr Grammy yn 2020 am y brif rôl yn y recordiad o The Passion of Yeshua gan Richard Danielpour, gyda’r Buffalo Philharmonic, dan arweiniad JoAnn Falletta. Yn 2021, perfformiodd Overton am y tro cyntaf gyda Metropolitan Opera mewn Cynhyrchiad o Porgy and Bess, a ddaeth i’r brig yng Ngwobrau’r Grammy, yn chwarae rhan Lawyer Frazier. Cafodd Overton ei enwebu ar gyfer gwobr ‘Perfformiad Opera Rhagorol’ yng Ngwobrau St. Louis Theatre Circle yn 2019 am bortreadu Stephen Kumalo yn Lost in The Stars gan Kurt Weill. Mae Kenneth wedi canu rolau gyda rhai o dai operâu gorau’r byd, fel San Francisco Opera, L’Opéra de Montreal, Palacio Bellas Artes, New York City Opera, Deutsche Oper Berlin, a’r Royal Danish Opera, yn ogystal â sawl tŷ opera rhanbarthol ledled America. Mae ei berfformiadau diweddar yn cynnwys y Perfformiad Cyntaf Erioed o An African American Requiem gan Damien Geter gyda Cherddorfa Symffoni Oregon.