
Cwrdd â WNO
Kira Charleton
Mae’r mezzo o’r Alban, Kira Charleton, yn astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru dan arweiniad Elizabeth Atherton ac yn 2021, enillodd Wobr Lieder Eileen Price. Ar ôl ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf, dyfarnwyd Gwobr Mabel Linwood Christopher iddi. Mae hi wedi derbyn Ysgoloriaeth Peter a Janet Swinburn, a gwobrau gan The Girdlers’ Charitable Trust, The Cross Trust a The Dewar Awards. Ymhlith ei hymrwymiadau diweddar mae The Duchess of Monteblanco yn A Dinner Engagement.