
Cwrdd â WNO
Kristen Forbes
Mae’r soprano Kristen Forbes, a anwyd yn yr Alban, yn ei hail flwyddyn ar hyn o bryd o’r cwrs gradd y mae’n ei hastudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru o dan diwtoriaeth Suzanne Murphy. Mae’n aelod o’r National Youth Chamber Choir of Scotland, sy’n ei gwneud yn Ysgolor Leverhulme, a bu’n cystadlu’n ddiweddar yng nghystadleuaeth bwrsariaeth Cerdd a Drama Gogledd Ddwyrain yr Alban, lle daeth yn gyntaf. Astudiodd yn flaenorol yn Aberdeen City Music School trwy gydol ei blynyddoedd yn yr ysgol uwchradd.