Cwrdd â WNO

Krystal S. Lowe

Mae Krystal yn ddawnsiwr, coreograffydd, ysgrifennydd, a chyfarwyddwr o Bermuda sydd wedi’i lleoli yng Nghymru. Mae hi’n hynod frwd dros integreiddio mynediad ac archwilio gwaith amlieithog, yn benodol cyfuno Iaith Arwyddion Prydain, Cymraeg, a Saesneg. Cyrhaeddodd rownd derfynol Cymrawd Sefydliad y Celfyddydau 2023 ar gyfer Theatr Ddawns ac mae’n Ymddiriedolwr i Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac Artist Cyswllt i Ballet Cymru.

Mae Krystal wedi cael gyrfa helaeth gyda Ballet Cymru yn teithio ledled y DU, Tsieina a Bermuda a hefyd gyda Citrus Arts, Cwmni Dawns Ransack, Theatr Iolo, Theatr Cymru, Frân Wen ac Arad Goch. Yn yr Oriel Genedlaethol, mae hi wedi perfformio ar gyfer ‘HOME-Zero’ a grëwyd gan Love Ssega ac a gomisiynwyd gan Nesta ac Oriel Genedlaethol X. Cafodd ei chomisiynu hefyd gan Music Theatre Wales i greu opera ar gyfer y sgrin (Somehow) a theithiodd ei sioe theatr ddawns Remarkable Rhythm i Ganolfan Ddiwylliannol Zamek yng Ngwald Pwyl.