Cwrdd â WNO

Lowri Porter

Cyd-Flaenwr

Ganed Lowri yng Nghaerdydd yn 1977. Astudiodd Gerddoriaeth yng Ngholeg Selwyn cyn astudio gyda Howard Davis a Marianne Thorsen yn yr Royal Academy of Music. Yn ystod ei chyfnod yn yr Academi, enillodd Lowri wobr y DipRAM ac arweiniodd Gerddorfa Ieuenctid yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Lowri wedi bod gyda cherddorfa’r WNO ers 2005. Yn ogystal ag arwain y WNO yn rheolaidd, mae hi wedi gwneud ymddangosiadau gwadd fel Arweinydd i Gerddorfa Symffoni Bournemouth a Cherddorfa Ffilharmonig y BBC. Cyn ymuno â WNO, hi oedd Prif Chwaraewr 2il ffidil yn yr Northern Ballet Theatre, a chwaraeai’n rheolaidd hefyd gyda’r Scottish Ensemble.

Ar wahân i’w gwaith cerddorfaol, mae Lowri’n gerddor siambr brwd. Yn 2016, fe’i gwahoddwyd gan Driawd Piano’r Gould i chwarae yng Ngŵyl Cerddoriaeth Siambr y Bont-faen. Yn ddiweddar, rhoddodd ddatganiad ar lwyfan cyngerdd Neuadd Dewi Sant, Caerdydd yn rhan o’u cyfres amser cinio. Mae hi hefyd yn aelod ymroddgar o staff dysgu Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae gan Lowri ddiddordeb mawr yn y gwyddoniaeth y tu ôl i berfformiad cerddorfaol, ac enillodd ragoriaeth yn ei gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth Perfformio o'r Royal College of Music yn 2020. Yn ei rôl fel Cyd-flaenwr, daeth Lowri a grwp o gerddorion o'r Gerddorfa ynghyd i llunio mentrau sy'n ymwneud â lles offerynwyr WNO: arweiniodd hyn at y Gerddorfa yn cwblhau sesiynau arlein yn yr Alexander Technique, y tebygrwydd rhwng chwaraeon elitaidd a pherfformiad elitaidd a sesiynau lles corfforol a meddyliol.

Ymhlith ei huchafbwyntiau personol gyda WNO hyd yma mae’r perfformiad teledu o Die Meistersinger yn BBC Proms, perfformiad trydanol o Symffoni Glasurol Prokofiev, yn un o’r cyngherddau ‘hunan yrru’ yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a’i pherfformiadau cyntaf o Rosenkavalier yn 2017. Dywed fod yr opera: ‘Ar frig y rhestr dyheadau am yr holl amser rydw i wedi bod yma, roedd yn gyffrous iawn.’

Mae Lowri’n chwarae ar feiolín  Testore, a roddwyd ar fenthyg caredig iddi gan roddwr dienw.