Trosolwg
Dechreuodd Lucie ddysgu’r obo yn ei gwasanaeth cerddoriaeth leol yn Berkshire wedyn aeth ymlaen i’r Purcell School of Music i astudio Lefel A lle hastidiwyd gyda Melanie Ragge. Cwblhaodd ei gradd israddedig ac ei gradd meistr yn yr Royal Acadamy of Music a oedd yn cynnwys ERASMUS yn yr Conservatoire National Superieur de Musique et de Danse yn Paris.
Cyn ymuno a WNO mi oedd Lucie yn byw a gweithio yn Llundain lle oedd yn llawrydd gyda sawl cerddorfa o amgylch y wlad.
Mae uchel bwyntiau Lucie gyda WNO hyd yn hyn yn cynnwys teithiau tramor, yn benodol i’r Ffindir i chwarae Nabucco a Manon Lescaut yn yr Savonlinna Festival. Mwynhaodd hefyd chwarae Cav and Pag gyda Carlo Rizzi, Hansel and Gretel gyda Lothar Koenigs, a Tosca ar gyfer pen-blwydd Syr Bryn Terfel yn 50. Ei huchaf bwynt cerddorfaol oedd perfformio Symffoni Rhif 2 Mahler gyda Chyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus.
I ffwrdd o WNO, mae Lucie yn mwynhau treulio amser yn y gegin yn coginio. Mae hefyd yn mwynhau rhedeg, yoga a theithio gyda’i gwr.